Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Darllenwch fwy am y Drwydded Archif Greadigol.
Disgrifiad
Roedd ein prosiect yn edrych ar y cyswllt hwnnw nad oes prin neb yn ymwybodol ohono, rhwng Cymru a'r Fasnach Caethwasiaeth Traws Atlantig, pan oedd carthen oedd yn cael ei nyddu yng nghymunedau gwledig Canolbarth Cymru yn cael ei allforio drwy'r Amwythig, ac yna ymlaen i Lundain a Fryste - ac yn ddiweddarach, i Lerpwl - a'i ddefnyddio gan fasnachwyr caethwasiaeth i fargeinio am bobl o Orllewin Affrica oedd wedi eu rhoi ar longau i gael eu cludo i'r Byd Newydd lle caent eu defnyddio i weithio hyd eu marwolaeth mewn mwyngloddiau neu blanhigfeydd. Roedd angen llathenni lawer o ddefnydd i ddilladu'r gweithwyr a oedd yn rhan o'r diwydiant caethwasiaeth, a bu i Welsh Plains uno gyda grŵp arall o Loegr o'r enw Negro Cloth.
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw