Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

Wonderbrass are an internationally acclaimed 25 piece Soul, Funk, Ska, Latin, Jazz juggernaut -- a danceaholic wall of sound -- a kick-ass brass tidal wave -- unmissable!!!!!; Wonderbrass formed in 1992 as a community street band from Pontypridd South Wales.Today they are bigger, bolder and brassier (pun intended) than ever before. Under the expert leadership of instrumentalist and composer Rob Smith and drummer extraordinaire Mark O'Connor, Wonderbrass are constantly evolving and exploring new musical challenges.
Traesgrifiad fideo Cymraeg: CLAUDE DEPPA
Dw i’n meddwl bod cerddoriaeth gydag ysbryd cymunedol, yn fwy dilys na cherddoriaeth broffesiynol.
Y cerddwyr proffesiynol - ie, dw i'n deall ein bod ni eu hangen nhw.
Mae’n rhaid iddi hi fod o safon anhygoel o uchel, ond mae cerddoriaeth gymunedol wastad yn teimlo i fi fel bod mwy o enaid ynddi hi.
Ti’n gwybod, mae'n canu yn dda yn fy nghalon.
Dw i wastad wedi bod yn rhan o'r band, ond mae hi wastad yn arbennig i ddod i weld ffrindiau - hen ffrindiau - a gweld beth maen nhw wedi'i wneud.
Mae'r egni yn arbennig.
Bore 'ma, cymerodd hi ddwy awr i bobl baratoi i chwarae.
Ti ddim yn gallu rhuthro hynny.
Roedd Rob yn barod heddiw, meddai, "Ni’n dechrau ymarfer am 10.00", felly ro’n i fel, "Rob mae'n 10.15, bydd pobl yn …"
Mae e'n mynd, "Gad nhw, mae angen amser arnyn nhw i ddweud helo. "a fydd neb yn mynd adref am 4.00, does dim angen i fi orffen am 4.00. "Fe fyddan nhw dal yma am 5.00.”
Ond pan rydyn ni'n dod at ein gilydd mae’n fel teulu.
Dyna pam mae'n gweithio, dw i’n credu, a dyma sy'n gwneud Wonderbrass.
Ymlaciedigrwydd, gallwch chi ei e.
Pan dych chi’n mynd i mewn i stiwdio, mae’r amser yn gyfyngedig.
Mae'n rhaid i chi fod fel, "Bang, bang, bang, mae hyn wedi’i orffen!”
Dydy Wonderbrass ddim yn gweithio fel’na. Mae'n fand organig iawn.
Mae e fel, "O, roedd hynny'n swnio'n dda, gadewch i ni wneud hwnna eto!”
Roedd e’n lletchwith pan o’n ni’n cymysgu’r gerddoriaeth oherwydd bydden ni’n ffeindio un peth a mynd, "Mae hynny'n iawn, ond mae angen i ni ei thrwsio hi ychydig bach.”
Roedd hi’n anodd ei chymysgu oherwydd dydych chi ddim yn gwybod pwy sy'n mynd i fod yno.
Rydych chi ond yn gwybod bod egni’r gerddoriaeth yn mynd i fod ar ryw lefel ble rydych chi'n mynd i gael hwyl, felly does dim ots pwy sy'n mynd i fod yno.
A gweld hen ffrindiau, rydych chi fel, "Bois bach!", ti'n gwybod? Dw i'n ei garu e. Dw i'n ei garu e.
Ond pan dych chi’n gweld y band yn fyw, mae'n brofiad yn hytrach na jyst gwrando ar y gerddoriaeth.
Mae'n rhaid i chi ei weld e, mae'n rhaid i chi ei deimlo fe.
Hanner can mlynedd? Dw i ddim yn meddwl fy mod i'n mynd i fyw mor hir â hynny!
Dw i'n credu dylen ni wneud deng mlynedd ar hugain, yn bendant.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw