Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

Wonderbrass are an internationally acclaimed 25 piece Soul, Funk, Ska, Latin, Jazz juggernaut -- a danceaholic wall of sound -- a kick-ass brass tidal wave -- unmissable!!!!! Wonderbrass formed in 1992 as a community street band from Pontypridd South Wales. Today they are bigger, bolder and brassier (pun intended) than ever before. Under the expert leadership of instrumentalist and composer Rob Smith and drummer extraordinaire Mark O'Connor, Wonderbrass are constantly evolving and exploring new musical challenges.
Trawsgrifiad o'r fideo Cymraeg: JOINING THE WONDERBRASS FAMILY
Ro’n i'n teimlo fel rhan o’r band ers y dechrau a bod yn onest, o'r diwrnod cyntaf un.
Yn syth, mewn gwirionedd.
Ymunais i â Jenny, Anna a Matt.
Maen nhw wastad wedi bod yn griw cynhwysol a chroesawgar iawn.
Ymunodd pedwar ohonon ni gyda'n gilydd, a chawson ni’n croesawu yn syth, fel, "O! Gwaed newydd!”
Bydd fy ffrindiau Wonderbrass yn ffrindiau oes.
Ro’n i'n teimlo fel un ohonyn nhw oherwydd roedd pawb mor frwd dros beth oedd yn digwydd ac am ddarnau rhyfeddol Rob.
Roedd hi ar gyfer pobl sy’n mwynhau chwarae, waeth byth eu galluoedd.
Roedd croeso i bawb.
Roedd pawb yn teimlo'n gartrefol.
Dydy’r peth anoddaf am ymuno â Wonderbrass ddim yr ochr gymdeithasol - mae hynny'n hyfryd iawn - ond dysgu'r holl repertoire. Dyna'r ochr arall iddo.
Dydyn ni byth yn rhagweld faint sydd yna, a faint o waith sydd yna.
Yn ystod y misoedd cyntaf, aethon ni drwy hyfforddiant dwys.
Bydden ni i gyd yn cwrdd a ro’n ni’n awyddus iawn i ddysgu’r holl repertoire rhwng ymarferion, felly fe wnaethon ni gwrdd yn aml.
Rydych chi'n dysgu oddi wrth bobl eraill.
Dw i’n cofio Nick yn ymuno.
Byddai Howard yn mynd gyda fe i'r ochr i’w addysgu e a nawr mae e'n chwaraewr sacsoffon gwych.
Ymunais i jyst ar ôl fy mhen-blwydd yn 17 oed a dw i’n cofio Derek Lewis yn dod i'r tŷ ar fy mhen-blwydd yn 18 oed, oherwydd prynodd bawb anrheg i fi.
Mewn rhai ffyrdd, Ro’n i'n teimlo'n rhan o'r band yn syth, oherwydd roedd pawb mor groesawgar ac yn barod i sgwrsio.
Des i nabod pawb mor gyflym.
Dechreuodd bopeth ddod at ei gilydd. Des i arfer â'r gerddoriaeth.
Doedd dim rhaid i fi ddibynnu cymaint ar ddarllen y gerddoriaeth ac yna, ro’n i fel, "Dw i’n teimlo fel rhan o hyn nawr.”
A ches i’r crys-T hyfryd hwn.
Dw i’n credu’r eiliad dechreuais i wneud gigs gyda'r band, dyna pryd o’n i’n teimlo fy mod yn cael fy nghynnwys a bron fel teulu.
Dw i’n meddwl y tro cyntaf i mi gael gwahoddid i chwarae gig, ro’n i'n teimlo fy mod i wedi'i wneud e, mewn ffordd.
Dyna oedd y pwynt lle o’n i wir yn teimlo fel rhan o’r band.
Ro’i wir yn teimlo fel rhan ohono fe y tro cyntaf i fi aros dros nos gyda'r band.
Gŵyl AberJazz oedd hi yn Abergwaun, pan o’n ni’n gweithio gyda Jason Yarde. Arhoson ni yn y gwesty bach hwn a doedd dim llawer o gysgu, a bod yn deg. Roedd yn hwyl iawn.
Dw i’n credu bod y profiadau hynny, o fynd i ffwrdd, ac efallai hefyd y penwythnos gyntaf yn Druidstone, oedd wedi’i smentio go iawn.
Roedd y penwythnosau i ffwrdd yn Sir Benfro yn ddrwg-enwog, on’d oedden nhw?
Roedden nhw'n dda.
Maen nhw'n mynd i lawr i le o'r enw Druidstone, sy'n westy mawr yn edrych dros draeth hyfryd yng Ngorllewin Cymru.
Dw i’n credu mai dyna ble mae'r bondio'n digwydd.
Mae pobl yn dod at ei gilydd, cael diod a phryd o fwyd ac maen nhw'n chwarae ac yn ymarfer.
Yna, gyda'r nos maen nhw'n jamio trwy'r nos.
Ysgrifennodd Rob ddarn gwych ar gyfer fy mhen-blwydd yn 40 oed o'r enw Dunkin' With Rich T, oherwydd fy enw i yw Richard ac mae fy nghyfenw'n dechrau gyda 'T', felly mae yna pyn braf ar hynny.
Ond daeth yr enw o dyncio yn y môr yn Druidstone.
O’n i ddim yn gwybod hynny.
Os wnewch chi wrando ar y rhan sacs, mae hi fel y môr a’r tonnau. Dywedodd Rob wrtha i, felly dyna chi.
A dyma fi'n meddwl mai bisgedi yn cael eu dyncio mewn te oedd hi.
Mae'n siŵr bod bisgedi hefyd! Teimlais i‘n freintiedig iawn o achos hynny.
Chwaraeodd y band ar gyfer fy mharti mhen-blwydd yn 40, ac roedd hynny'n wych.
Do’n i ddim yn gwybod beth i’w feddwl am bawb ar y dechrau. Pan ddes i mewn gyntaf, ro’n i’n meddwl, "Pwy yw'r holl bobl ryfedd yma?" Criw rhyfedd a rhyfeddol ydyn nhw - a dw i’n cynnwys fy hun yn hynny. Ond roedd e’n wych. Roedd e’n deulu hyfryd i fod yn rhan ohono fe.
Roedd pawb mor gadarnhaol ac mewn hwyliau da.
Does dim byd tebyg i rewi eich rhannau dirgel i ffwrdd ar gig stryd i'ch gwneud chi'n gyfeillgar iawn gyda phawb o'ch cwmpas.
Y cynhesrwydd a'r egni yw e a'r deinamig a'r personoliaethau a'r ffaith bod sbectrwm eang iawn o bobl.
Maen nhw'n griw hyfryd o bobl, gyda phroffesiynau amrywiol iawn.
Mae'n fand unigryw iawn, ynte?
Mae pawb yn cyfrannu rhywbeth.
Allech chi ddim yn teimlo fel eich bod chi ddim yn rhan ohono fe. Byddai hynny'n amhosib.
Teimlais i fel rhan o'r band yn syth, hyd yn oed y tro cyntaf i fi fynd gyda fy sacsoffon pan o’n i ddim yn gallu chwarae.
Roedd yr amgylchedd mor groesawgar.
Mae yna lawer o bobl yn Wonderbrass fyddwn i ddim yn eu nabod a fyddwn i ddim ble ydw i nawr oni bai am y band.
Mae'n dod â phobl at ei gilydd fyddai erioed wedi cwrdd fel arall.
Pobl o bob man yn dod at ei gilydd gyda’r un bwriad, i greu cerddoriaeth ac i gael amser da.
Dw i erioed wedi gweld unrhyw beth sy'n gweithio yn yr un ffordd a Wonderbrass yn gwneud hynny.
Er mai dim ond am chwech mis dw i wedi bod yna dw i’n teimlo’n fwy fel rhan o Wonderbrass na’r gerddorfa dw i wedi bod yn chwarae gyda nhw ers deng mlynedd.
Hoffwn i ddiolch i'r band rhyfeddol, sef Wonderbrass.
Ar ôl i chi ddechrau gwybod enwau, ac yn adnabod wynebau a phethau felly, dyna pryd dechreuais i fondio go iawn gyda phobl ac yn teimlo fel rhan o’r profiad Wonderbrass.
Dw i’n dal i fethu credu bod fi’n cael y cyfleoedd dw i’n eu cael.
Mae'n dal i fod yn hollol wallgof bod chwaraewr sacsoffon o allu cyffredin yn gallu gwneud yr holl bethau anhygoel hyn.
Fy ngŵr - wnes i’w orfodi e i ymuno â'r band hefyd, dechreuodd e ddysgu’r trombôn tua phum mlynedd yn ôl. Meddai, "Rydw i’n chwaraewr trombôn gradd 4, 5 efallai, ac rydw i'n cael gwneud yr holl bethau hyn! "Mae’n wallgof.”
Ond rydyn ni'n dal i wenu a gwisgo'r hetiau gwirion, ac mae'n gweithio.
Beth allwn i'w ddweud?
Mae'n fendigedig.
Maen nhw'n fy ngwneud i'n hapus.
Maen nhw'n fy ngwneud i fi garu bywyd.
Yr egni hwnnw, hoffwn i’w boteli e.
Gallech chi ei werthu e a gwneud i bobl teimlo’n hapus ledled y byd.
Mae angen hapusrwydd arnoch chi.
Rydyn ni'n dy garu di.
Ffantastig.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw