Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

Wonderbrass are an internationally acclaimed 25 piece Soul, Funk, Ska, Latin, Jazz juggernaut -- a danceaholic wall of sound -- a kick-ass brass tidal wave -- unmissable!!!!!; Wonderbrass formed in 1992 as a community street band from Pontypridd South Wales. Today they are bigger, bolder and brassier (pun intended) than ever before. Under the expert leadership of instrumentalist and composer Rob Smith and drummer extraordinaire Mark O'Connor, Wonderbrass are constantly evolving and exploring new musical challenges.
Trawsgrifiad fideo Cymraeg:
Gig awyr agored oedd fy ngig cyntaf i gyda Wonderbrass
Yn yr Hanner Marathon, yn sefyll ar ben y bryn ar Heol Fairoak, yn bloeddio ar bawb wrth iddyn nhw fynd heibio.
Fy ngig cyntaf gyda Wonderbrass oedd yn Tiny Rebel yng Nghaerdydd.
Ro'n i'n teimlo fel bod fi ddim eisiau siomi neb.
Mae e mor hamddenol pan rydyn ni'n chwarae gigs ar y stryd.
Roedd yr awyrgylch mor dda ac yn wefreiddiol.
Do'n i ddim eisiau gadael y llwyfan.
Dw i'n credu taw gig stryd oedd hi, oedd.
Un o orymdeithiau SWICA, dw i'n credu.
Gwnaethon ni chwarae yn strydoedd cefn Casnewydd yn rhywle ar gyfer parti Nadolig clwb hwylio.
Sylweddolais i wedyn bod yr holl beth gigio yma yn mynd i fod yn beth mawr, brawychus, ac roedd hi'n wahanol iawn i chwarae mewn ymarferion.
Roedd hi'n wefreiddiol ac yn frawychus.
Gweithiodd hi allan yn dda iawn, oherwydd aethon ni i ffwrdd i Druidstone am y penwythnos er mwyn cymryd rhan mewn gweithdai ac i ymarfer y set gyfan.
Roedd e’n hwyl a fe wnes i fwynhau'r profiad.
Roedd cwpl o'r darnau ychydig bach yn - "Sori, beth ydyn ni'n chwarae?”
"Sut mae hon yn mynd?!"
Rydych chi'n mynd i'r afael â hi yn y pen draw ac mae pawb yn gymwynasgar iawn, felly mae'n dda.
Ro'n i wedi dod o gefndir band pres disgybledig iawn…
Ti wedi dod i arfer â chael yr hyn rwyt ti'n ei chwarae wedi'i ysgrifennu i lawr mewn rhyw drefn arbennig.
..y creadigrwydd, ac mae'n fwy rhydd.
Dod at ein gilydd a chreu yr adeg yna lle mae pawb yn teimlo'n gysylltiedig, mewn ffordd.
Mae'n rhywbeth unigryw gyda Wonderbrass.
Ro'n i yno am hanner awr cyn i ni i fod i chwarae, a doedd neb arall o gwmpas tan tua phum munud cyn i ni i fod ar y llwyfan pan ymddangosodd pawb o'r bar.
Dywedais i wrth Anthony, "Beth ydyn ni'n chwarae?" a meddai, "Fe gawn ni wybod nawr.”
Ffeindiais fy hun ar y llwyfan yng Ngŵyl Jazz Brecon wrth ymyl trombonyddion profiadol, yn esgus fy mod i'n gwybod beth o'n i'n ei wneud.
"Oes rhestr o ganeuon?" Meddai, "Na, dim ond beth mae Rob yn ei gyhoeddi.”
"O, iawn, iawn.”
Dw i wrth fy modd ar y llwyfan.
Fe wnes i fwynhau yn fawr, ac yn cerdded o gwmpas gyda bathodyn bach yn dweud ‘cerddor’.
Ro'n i'n posio ychydig, a dweud y gwir.
Ac yna, un diwrnod, aeth Rob o amgylch yr ystafell mewn ymarferion
a gofyn oedd pawb ar gael.
Ro'n i bob amser yn mynd i ddweud ie. Dw i'n dweud "Ie" i bopeth, a dweud y gwir.
Unwaith eto, her arall, a chyffrous iawn.
Roedd y cyfnod paratoi yn wych, a gwnes i fe.
Symudais i’n gymharol gyflym i mewn i fy nghyngerdd cyntaf
Do'n i ddim gyda Wonderbrass am hir iawn cyn i mi ddechrau.
Gofynnwyd i ni chwarae ar gyfer y Ffair Haf GE.
Yng Nghanolfan Hamdden Hawthorn oedd hi.
Poeth, yn chwarae yn yr awyr agored, rhywbeth newydd i fi.
Chwarae mewn maes parcio. Dw i wedi chwarae mewn digon o'r rheiny ers hynny.
Dw i'n cofio chwarae wrth i ni fynd o gwmpas y ganolfan hamdden y tu mewn a'r tu allan.
Roedd yna gestyll bownsio.
Wnes i ddysgu sut i fownsio synau oddi ar y waliau a phethau felly.
Dw i'n cofio doedd dim cerddoriaeth, do'n i ddim yn gwybod y nodiadau neu beth oedd yn mynd ymlaen.
Ro'n i fel, "Duw, Duw! sut ydw i wedi glanio yn y sefyllfa hon?", ond fe wnaeth e ddigwydd.
Roedd hi tua chwech neu wyth wythnos ar ôl i fi ymuno.
Fy ngig cyntaf gyda Wonderbrass oedd yn yr annwyl TJ's yng Nghasnewydd, sy wedi cau erbyn hyn ac roedd hi’n anhygoel.
O'n i ddim yn gallu ei gredu e – chwarae ar yr un llwyfan ble o'n i wedi gwylio llwyth o fandiau wrth dyfu i fyny.
Ges i gymaint o hwyl, ac yna aethon ni am ddiod.
Doedd dim pwysau, roedd pawb wedi meddwi ar ôl y rygbi beth bynnag,
felly ro'n nhw'n taflu arian atom ni beth bynnag wnaethon ni, a ro'n i wrth fy modd!
Mae'n debyg y byddwn i wedi chwarae un neu ddwy gan yng Nghaerdydd.
Byddwn i wedi bod yn chwarae offerynnau taro neu rywbeth felly.
Ar yr ychydig ganeuon ro'n i'n eu nabod, byddai Chris yn rhoi'r bas i mi, a byddwn i wedi chwarae ar y caneuon hynny oherwydd roedd e'n agored iawn ac yn hapus i adael i mi chwarae gyda fe.
Roedd hynny'n dda iawn.
Yn yr ystafell uwchben Dempseys, dyna oedd fy ngig cyntaf i.
Doedd e ddim yn Jas Aberhonddu na rhywbeth felly, sy'n gig mawr iawn
ac yn hawdd poeni drosto fe, roedd e'n gig braf lleol yng Nghaerdydd.
Gofyn i bobl ar y cwrs prifysgol i ddod i wylio.
Dw i ddim yn cofio'r gig cyntaf. Mae'r band wedi gwneud shwd gymaint dros y blynyddoedd.
Dw i'n credu ein bod ni wedi chwarae y tu allan ym Mae Caerdydd ac roedd hi'n oer iawn.
Ro'n i ni i gyd wedi ein lapio mewn dillad cynnes a chwrddon ni â'r Cardiff Devils.
Wnaethon ni ddim chwarae ar y caneuon o'n ni ddim yn eu nabod a gwnaethon ni chwarae'r rhai ro'n ni'n eu nabod.
Yna fe wnaethon ni chwarae gig gyda King Django yng Nghlwb Ifor Bach.
Ro'n ni ofn oherwydd roedd e'n edrych fel rhywbeth mawr iawn.
Fe wnaethon ni wahodd ein ffrindiau a'n teulu draw ac roedd crysau-T a phosteri.
Roedd yn frawychus ond yn hwyl hefyd.
Y gig cyntaf dw i'n cofio ei wneud gyda nhw oedd y gig Roald Dahl yng nghanol y dref.
Roedd miloedd ar filoedd o bobl yno, pob math o bethau'n digwydd.
Ro'n i'n meddwl ei fod e'n cŵl iawn. Roedd e'n anhygoel.
Mae'r gynulleidfa yn eich bwydo chi ac yn eich annog chi.
Mae'n llifo'n dda a doedd gen i ddim syniad amdano.
Fydda i byth yn anghofio'r profiad.
Roedd yn garnifal llwyr o gerddoriaeth ac roedd y gynulleidfa yn rhan o'r gerddoriaeth.
O’n nhw ddim ar wahân.
Doedd dim rhaniad rhwng Wonderbrass a'r gynulleidfa.
Unwaith eto, ro'n i fel, "Mae hyn yn anhygoel.”

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw