Wonder Brass yng Ngŵyl Jazz Aberhonddu
Eitemau yn y stori hon:
Mae'r band wedi dod â'u hysbryd deinamig i'r ŵyl. Mae'r ŵyl yn ei thro wedi rhoi cyfle i'r band chwarae ar yr un rhaglen â nifer o enwau rhyngwladol yn y byd jazz yn ogystal â rhoi cyfle i ddangos gwaith y band mewn partneriaeth gydag eraill, megis Jason Yarde ac Amampondo. Yn 2012 ffurfiodd wonderbrass galon 'flash mob' sacsoffon a oedd yn cynnwys enwau sax mawr fel Yolanda Brown ac Iain ballamy.
Mae'r cysylltiad gyda Aberhonddu wedi galluogi i fandiau ymfalchïo ynddynt eu hunain. Yn y fideo 'Fy Gig Cyntaf' ('My First Gigl) mae um cyn-aelod, Mike Williams, yn disgrifio sut deimlad oedd mynd ar ei daith gyntaf gyda'r band yn Aberhonddu: 'Ro'n i ar y llwyfan yng Ngŵyl Jazz Aberhonddu drws nesaf i chwaraewr trombôn profiadol, yn cymryd arnaf fy mod i'n gwybod beth oeddwn i'n ei wneud ...; Fe wnes i fwynhau'r peth yn fawr, a chael cerdded o gwmpas gyda bathodyn bach yn dweud 'cerddor'. Roeddwn i'n dangos fy hun fymryn a dweud y gwir'.