Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

Wonderbrass are an internationally acclaimed 25 piece Soul, Funk, Ska, Latin, Jazz juggernaut -- a danceaholic wall of sound -- a kick-ass brass tidal wave -- unmissable!!!!! Wonderbrass formed in 1992 as a community street band from Pontypridd South Wales. Today they are bigger, bolder and brassier (pun intended) than ever before. Under the expert leadership of instrumentalist and composer Rob Smith and drummer extraordinaire Mark O'Connor, Wonderbrass are constantly evolving and exploring new musical challenges.
Welsh videotranscript: 6. ROB AND JESS
Fe wnaethon ni orymdaith ar Ystâd Gurnos ym Merthyr.
Roedd llawer o chwilfrydedd pan oedden ni’n gorymdeithio o amgylch yr ystâd hon.
Beth mae'r bobl hyn yn ei wneud yma a pham?
Ond fe wnaethon ni hynny ac yna aethon ni i lefydd tebyg eraill lle dydyn nhw ddim yn gweld unrhyw gelf.
Trwy wneud hynny ac wrth deimlo fel eich bod chi ychydig ar eich pen eich hunan, rydych chi’n meithrin ymdeimlad anhygoel o undod a bondio gyda'r bobl eraill sydd yn cymryd yr un risg.
Aeth e o fand gweithdy yn unig, a oedd â hyd oes botensial gyfyngedig iawn, iawn, a nod potensial cyfyngedig iawn - sef gwneud cwpl o wyliau neu garnifalau gyda SWICA.
Pan ddechreuon ni wneud gigs â chyflog gwell, ac yn enwedig y gigs dramor a'r holl wyliau, yna daeth y problemau oherwydd ar un llaw mae'n rhaid i chi fod yn fand gweithdy sy'n caniatáu i unrhyw un gymryd rhan ac ar y llaw arall, mae'n rhaid i chi fod yn broffesiynol.
Mae hynny'n creu rhywfaint o densiwn.
Dw i'n gwneud iddo swnio'n eitha negyddol, ond mewn gwirionedd mae'r tensiwn yn eithaf creadigol.
Fe wnaeth y band yn well.
I fi, cychwynnodd y broses honno rhywle o’r 90au cynnar i ganol y ‘90au.
Ym 1995, aethon ni i Barcelona a wnaethon ni chwarae yn eu Fiesta.
Mae yna ŵyl gelf enfawr hefyd, felly fe wnaethon ni chwarae yn y Pentref Olympaidd i tua 7,000 o bobl a meddwl, "Mae hyn yn anhygoel.”
Band bach cymunedol o Gymru yn chwarae i 7,000 o bobl yn Barcelona.
Roedd yr orymdaith i weld fel bod pawb yn y ddinas wedi dod allan ar y strydoedd.
Roedd y tywydd yn hyfryd.
Roedd yn gig anhygoel ac yn brofiad bondio da iawn.
Aethon ni allan bob nos trwy’r penwythnos.
Roedd y tafarndai ar agor trwy'r nos oherwydd yr ŵyl, felly roedden ni allan trwy'r amser.
Mae'n debyg bod y gwelyau yna oedd y gwelyau i gael eu defnyddio lleiaf erioed mewn gwestai.
Wrth gyrraedd adref i'r gwesty am 1.00am, roedd y gwesty wedi cau ac roedd pawb eisiau bwyd.
Roedd Dave, un o'r chwaraewyr sacs, yn arfer bod yn gogydd, felly fe wnaethon ni fynd drwy’r gegin a dwyn eu bwyd i gyd.
Roedd hynny'n llawer o hwyl.
Yn ystod Gŵyl Jas Aberhonddu 2006, buon ni'n gweithio gyda band o Cape Town o'r enw Amampondo.
Ro’n nhw'n hedfan allan ar gyfer yr ŵyl. Doedd dim amser i ymarfer gyda nhw.
Fe wnaethon ni anfon tâp ohonon ni atyn nhw a gwnaethon nhw greu rhannau drwm oherwydd grŵp taro ydyn nhw ar y cyfan.
Felly cawson ni’r Wonderbrass arferol, gyda phob un wedi’u gwisgo i fyny mewn crysau gwyn, tuxes a bwâu dicky neu ffrogiau bach du ac yn y canol, roedd chwech o ddynion o Cape Town, o lwyth yr Xhosa yn Cape Town, a ro’n nhw wedi’u gwisgo mewn dillad llwythol.
Roedd y cyferbyniad rhwng y bobl mewn du a gwyn a'r dynion hyn gyda phlu a ffwr a gwisgoedd ac offerynnau Affricanaidd yn y canol, yn ddelwedd anhygoel.
Aeth hynny i lawr yn dda iawn.
Fe wnaethon ni chwarae i gynulleidfa orlawn ac yna fe wnaethon ni wneud e eto y flwyddyn ganlynol.
Ond y flwyddyn ganlynol, ro’n nhw wedi dod draw ar gyfer prosiect arall, felly roedd yna gyfle i ysgrifennu rhywfaint o ddeunydd gyda nhw.
Yng Nghorc, aethon ni i gyd i'r bar hwn.
Am ddim rheswm, dim ond i gael diod un amser cinio.
Daeth rhywun â'u trymped allan, dw i'n credu mai Richard oedd e.
O fewn awr, ro’n ni’n chwarae gig byrfyfyr yn y bar hwn dim ond am hwyl, am gwrw am ddim.
Roedd e’n ddiwrnod gwych, yn well na'r gig yng Nghorc ei hunan, os dwi'n cofio’n iawn.
Gŵyl Rhif 6.
Ym Mhortmeirion yw hi, sef y pentref addurnedig sydd yn ymddangos yn y gyfres deledu, The Prisoner, felly mae'n brydferth, ond mae hi hefyd yn fach iawn.
Mae gwneud carnifal yno’n anhygoel oherwydd bod pobl yn eich wyneb.
Gyda'r bwriadau gorau yn y byd, dydyn nhw ddim yn gallu cadw llawer o le rhwng y gynulleidfa.
Mae yna rai pobl sydd eisiau cymryd rhan ac rydych chi'n cael rhai pobl sy'n cael eu drysu ganddo fe, fel sydd wastad yn digwydd gyda charnifal yn y wlad hon.
Fe wnaethon ni orffen ar lwyfan gyda band samba ac ysgrifennon ni set gyda'n gilydd.
Un mawr arall yw’r gig ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Llundain, ble gwnaethon ni chwarae ar y South Bank fel rhan o'r Olympiad Diwylliannol.
Fe wnaethon ni chwarae gyda Jason Yarde eto a darlledwyd hynny ar y BBC, ar BBC Radio 3, ac roedd e wedi'i ryddhau ar CD.
Cafodd ugain prosiect celfyddydol eu dewis ym Mhrydain i gymryd rhan yn hynny.
Ni oedd yr unig un o Gymru.
Ond hefyd, roedden ni'n meddwl eu bod nhw i gyd yn grwpiau amatur, ond roedd hanner ohonyn nhw'n grwpiau proffesiynol - cafodd cwmnïau opera eu cynnwys.
Yr unig rheol oedd bod rhaid i chi gomisiynu cyfansoddwr.
Cafodd deg cwmni proffesiynol a deg cwmni amatur eu dewis yn y diwedd, dw i’n meddwl.
Gwnaeth hynny wneud i ni gymryd ein hunain o ddifrif, oherwydd roedden ni’n gallu gwneud ceisiadau ac ennill comisiynau fel yna - ac rydyn ni wedi ennill sawl gomisiwn ers hynny.
Roedden ni'n arfer ymarfer bob dydd Mawrth a dw i'n credu fy mod i wedi mynd i 99% ohonyn nhw.
Weithiau, dw i'n gallu cofio gwneud tri, pedwar gig ar y penwythnos.
Byddech chi'n chwarae yn rhywle ar y stryd yng Nghaerdydd yn y prynhawn a chwarae yn rhywle arall gyda'r nos.
Roedd hi’n ddi-baid. Roedd rhywbeth yn digwydd trwy'r amser.
Roedd hi’n anodd i ni - i fi a Rob yn benodol oherwydd byddai'r aelodau'n newid.
Fe allech chi chwarae gyda deg o bobl ar brynhawn dydd Sadwrn a deg neu bymtheg eraill ar y nos Sadwrn.
Felly roedd e’n haws i’r aelodau.
Fy atgof i ohono fe yw ei fod e’n eithaf didostur weithiau.
Aeth ymlaen ac ymlaen ac ymlaen, ac roedd hynny yn beth da, nid yn beth drwg.
Mae yna gig cofiadwy iawn arall - y gig a wnaeth gychwyn y prosiect hwn yn The Gate in y Rhath fel rhan o Ŵyl Made In Roath.
Roedd hi'n noson anhygoel, a dweud y gwir, oherwydd daeth hen ffrindiau yn ôl oedd ddim wedi bod yn y band ers oesoedd i'n gweld ni.
Daeth pobl oedd ddim wedi ein gweld ni ers blynyddoedd i mewn i weld beth o’n ni’n ei wneud.
Roedd e’n ffordd o gysylltu holl hanes y band dros 25 mlynedd i'r rhai sydd wedi bod ynddo fe am y 25 mlynedd lawn.
Tynnwyd yr holl brofiad hwnnw at ei gilydd oherwydd ro’n ni’n gweld hen ffrindiau.
Roedd yna bobl ar y llwyfan oedd ddim wedi chwarae gyda ni ers oesoedd.
Roedden ni’n profi’r hiraeth ac yn edrych yn ôl, ond hefyd, ro’n ni’n chwarae deunydd newydd sbon a dyna pam roedd e’n teimlo mor arbennig.
Mae eu safon nhw heddiw yn llawer uwch nag oedd hi o’r blaen o achos Rob a'i ymdrechion o safbwynt cerddorol, ond allwch chi ddim anghofio'r bobl sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni.
Pan o’n i yn y band, Denise oedd yn gwneud pethau.
Yn ddi-dâl yn bennaf, tasg ddi-ddiolch i raddau helaeth.
A nawr mae’r ddau Jenny yn gwneud pethau, hyd y gwn i.
Tasg ddi-dâl a di-ddiolch i raddau helaeth, o fy safbwynt i sy'n caniatáu i Rob wneud ei stwff.
Hebddyn nhw, does dim byd yn digwydd.
Eiliadau allweddol, mae yna gigs cofiadwy yng Nghorc, Santiago yn Sbaen a Vienne yn Ffrainc, Stuttgart.
Dyna fy uchafbwyntiau i, dw i'n meddwl.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw