Skip to main content

Llyn Cerrig Bach

Llyn Cerrig Bach ym Môn yw un o safleoedd archeolegol pwysicaf Prydain.
Roedd yn gyrchfan sanctaidd lle’r oedd Celtiaid yr Oes Haearn yn taflu ysbeilion rhyfel i’r dyfroedd fel offrymau i’r duwiau. Gwrthrychau milwrol a ddarganfuwyd yma fwyaf gan gynnwys 11 cleddyf, 8 pen picell, rhan o darian a darnau hyd at 10 i 22 o wahanol gerbydau rhyfel. Mae rhai o’r gwrthrychau yn lleol, er fod ychydig yn dod o Iwerddon a nifer o dde Lloegr. Mae hyn yn awgrymu fod gan y llyn arwyddocâd pell-gyrhaeddol. Mae astudio gwrthrychau’r llyn yn rhoi cipolwg amhrisiadwy i ni o fywyd a chredoau ein cyndeidiaid Celtaidd.
Testun gan Bedwyr Rees ar gyfer arddangosfa y Lle Hanes, Eisteddfod Genedlaethol 2017.
 

Gwelediadau:
2592
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
24/07/2017

More collections with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment