Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad


Mae rhai o wrthrychau Llyn Cerrig Bach wedi eu haddurno gyda thrisgell. Mae’n fotiff sy'n cynnwys troell driphlyg, gymesur. Mae rhai yn credu fod y tair rhan yn cynrychioli daear, awyr a dŵr. Mae’r patrwm ar y cilgant o Lyn Cerrig Bach wedi ei guro yn gelfydd iawn o’r cefn. Ceir trisgellau hefyd ar wyneb y bwlyn efydd. Mae’n anodd gwybod i ba ddiben y byddai’r bwlyn wedi ei ddefnyddio – o bosib i addurno cerbyd rhyfel, tarian neu offeryn cerddorol. Ystyrir fod llif swynol y celfyddyd gain sydd ar y gwrthrychau hyn yn cynrychioli arwyddocâd crefyddol i bobl Oes yr Haearn.

Cafodd y patrwm trisgell ei forthwylio’n gelfydd o’r cefn. Dyma un o’r enghreifftiau pwysicaf o gelf Geltaidd o Brydain.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw