Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd y gadwyn yma yn dal pump caethwas. Mae rhan ohoni wedi plygu wrth lusgo cerbyd o’r gors.

Pan ymestynwyd Awyrlu Brenhinol Y Fali yn 1943, darganfuwyd gwrthrychau syfrdanol.

William Owen Roberts oedd y Prif Ofalwr Tir pan aeth lori yn sownd yn y mwd. Penderfynwyd llusgo’r cerbyd allan gan ddefnyddio hen gadwyn oedd gerllaw. Meddyliodd Mr Roberts wedyn fod rhywbeth rhyfedd am y gadwyn. Gwnaeth lun ohoni a’i yrru i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Syfrdanwyd yr archeolegydd Syr Cyril Fox pan welodd y llun. Sylweddolodd fod y gadwyn tua 2,000 o flynyddoedd oed. Daeth i Ynys Môn ar ei union ac yn ystod y pedair blynedd nesaf, darganfuwyd dros 150 o wrthrychau Oes yr Haearn yn Llyn Cerrig Bach.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw