Corn
Corn
Disgrifiadau
Dalen diwb yw defnydd y corn, ac roedd rhybedion yn ei dal ynghyd.
Un o ddarganfyddiadau rhyfeddaf Llyn Cerrig Bach oedd rhan o offeryn cerddorol – corn ag iddo siap C neu S. Pan yn gyfan, byddai ganddo geg cul a chloch ffaglog. Mae enghreifftiau cyfan o offerynnau tebyg wedi goroesi mewn corsydd yn Iwerddon. Creuwyd atgynhyrchiadau ohonynt yn Iwerddon a’r Alban ac mae eu sŵn hiraethus yn ein hatgoffa o draddodiad cerddorol sy’n perthyn i gyfnod cyn-hanesyddol. Mae’n debyg fod y cyrn yma yn cael eu defnyddio yn ystod seremonîau ac i ddychryn y gelyn mewn brwydrau.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment