Milwr Rhyfel Byd 1af - Thomas Leah
Ymunodd Thomas Leah â’r Magnelau Brenhinol ym 1899. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yn Uwchgapten yn y Magnelau Maes Brenhinol, yn gyfrifol am fagnelfa o ddynion a oedd yn gyfrifol am leoli gynau a dynnwyd gan geffylau yn agos at y rheng flaen. Roedd yr eitemau yma yn rhan o arddangosfa “Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Cofio” yn adeilad y Cynulliad, Bae Caerdydd, 07/11/15 – 21/02/16. Bu'r arddangosfa yn ystyried straeon dynion a menywod a frwydrodd dros eu gwlad yn y Rhyfel Byd Cyntaf.