Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Llyfr lloffion Thomas Leah.
Cyn y rhyfel, roedd Thomas wedi’i leoli yn India gyda’i wraig, Frances. Pan ddechreuodd y rhyfel,
anfonwyd Catrawd Magnelau India i Loegr hyd nes y cafodd ei drosglwyddo i’r rheng flaen yn Ffrainc.
Ymunodd Thomas Leah â’r Magnelau Brenhinol ym 1899.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yn Uwchgapten yn y Magnelau Maes Brenhinol, yn gyfrifol am fagnelfa o ddynion a oedd yn gyfrifol am leoli gynau a dynnwyd gan geffylau yn agos at y rheng flaen.
Dyma Jenny Rathbone, wyres Thomas yn cofio:
“Roedd yn rhai o’r lleoedd gwaethaf; yng ngogledd Ffrainc a Salonika. Gollyngwyd ef yn wael o’r fyddin deirgwaith; ddwywaith oherwydd ‘blinder nerfus’.
Gadawodd y fyddin o’r diwedd ym 1928, a lladdodd ei hun yn fuan wedi hynny.”
Dyma Frances, gwraig Thomas, yn ysgrifennu am ei farwolaeth yn ei dyddiadur:
‘Mewn rhai ffyrdd, dwi’n meddwl bod y rhyfel rhwng 1914 ac 1918 yn rhannol gyfrifol am ei farwolaeth, oherwydd ‘doedd ei iechyd na’I nerfau wedi bod yr un fath ag yr oedden nhw cyn i’w fagnelfa gael ei chwythu i fyny ar y rheng flaen yn Salonika. – (lle enillodd ei D.S.O cyntaf ) [Gorchymyn Gwasanaeth Arbennig]’
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw