Skip to main content

Llythyr dienw a ysgrifennwyd gan Thomas Leah ym 1918, yn achwyn ar y rheini a oedd am ymestyn y rhyfel er mwyn sicrhau buddugoliaeth lawn

Disgrifiadau

Ymunodd Thomas Leah â’r Magnelau Brenhinol ym 1899.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yn Uwchgapten yn y Magnelau Maes Brenhinol, yn gyfrifol am fagnelfa o ddynion a oedd yn gyfrifol am leoli gynau a dynnwyd gan geffylau yn agos at y rheng flaen.

Dyma Jenny Rathbone, wyres Thomas yn cofio:
“Roedd yn rhai o’r lleoedd gwaethaf; yng ngogledd Ffrainc a Salonika. Gollyngwyd ef yn wael o’r fyddin deirgwaith; ddwywaith oherwydd ‘blinder nerfus’.
Gadawodd y fyddin o’r diwedd ym 1928, a lladdodd ei hun yn fuan wedi hynny.”

Dyma Frances, gwraig Thomas, yn ysgrifennu am ei farwolaeth yn ei dyddiadur:
‘Mewn rhai ffyrdd, dwi’n meddwl bod y rhyfel rhwng 1914 ac 1918 yn rhannol gyfrifol am ei farwolaeth, oherwydd ‘doedd ei iechyd na’I nerfau wedi bod yr un fath ag yr oedden nhw cyn i’w fagnelfa gael ei chwythu i fyny ar y rheng flaen yn Salonika. – (lle enillodd ei D.S.O cyntaf ) [Gorchymyn Gwasanaeth Arbennig]’

Owner:
Jenny Rathbone
Crëwr:
Thomas Leah
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
14/3/2016
Gwelediadau:
1051
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment