Jim Bootle a'i ffidil "Yr Eos"
Jim Bootle a'i ffidil "Yr Eos"
Detholiad o eitemau sy'n cofnodi un foment yn Eisteddfod Genedlaethol Gyntaf yr Urdd yng Nghorwen 1929. Bu James Lewis Roberts 'Jim Bootle' (1916 - 1978) yn chwarae “Yr Eos” yn yr Eisteddfod, gan ennill y drydedd wobr yng nghystadleuaeth yr unawd offerynnol. Y darn a berfformiwyd ganddo oedd “La Serenata” gan Braga ac mae taflen adborth y beirniad wedi aros gyda’r eitemau um meddiant y teulu ers hynny. Daethpwyd â’r eitemau i’r Llyfrgell Genedlaethol, ble bu aelodau o dîm Casgliad y Werin yn sganio’r deunydd, tynnu ffotograffau o’r offeryn ac yn gwneud recordiad sain o'r ffidil yn cael ei chwarae.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment