Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd y ffidl hon yn wreiddiol yn eiddo i James Lewis Roberts ‘Jim Bootle’ (1916 – 1978), aelod o’r gymuned Gymreig yn Lerpwl.

Tu mewn i’r ffidl mae’r arysgrifiad “John Owen, Bootle, 1925, ‘Yr Eos’”, sy’n awgrymu bod y crëwr yn rhoi enw i bob un o’i offerynnau.

Chwaraeodd Jim “Yr Eos” yn Eisteddfod gyntaf yr Urdd yng Nghorwen, 1929, gan ennill y drydedd wobr yng nghystadleuaeth yr unawd offerynnol. Y darn a berfformiwyd ganddo oedd “La Serenata” gan Braga, ac mae taflen adborth y beirniad wedi aros gyda’r eitem yn y teulu ers hynny.

Daethpwyd â’r offeryn yn ogystal â dogfennau arall i’r Llyfrgell Genedlaethol, ble bu aelodau o dîm Casgliad y Werin yn sganio’r deunydd, tynnu ffotograffau o’r offeryn ac yn gwneud recordiad sain.
Y darn sy’n cael ei chwarae yw “La Serenata”, sef yr un darn a chwaraeodd Jim Bootle yn Eisteddfod yr Urdd 1929.
Perfformiwyd y darn gan Iwan ap Dafydd, aelod o staff LlGC.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw