Skip to main content

‘Yr Eos’, ffidl wedi’i gwneud gan John Owen yn 1925.

Disgrifiadau

Roedd y ffidl hon yn wreiddiol yn eiddo i James Lewis Roberts (‘Jim Bootle’, 1916 – 1978), aelod o’r gymuned Gymraeg yn Lerpwl.

Tu mewn i’r ffidl mae’r arysgrifiad “John Owen, Bootle, 1925, ‘Yr Eos’”, sy’n awgrymu bod y crëwr yn rhoi enw i bob un o’i offerynnau.

Chwaraeodd Jim “Yr Eos” yn Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yr Urdd yng Nghorwen, 1929, gan ennill y drydedd wobr yng nghystadleuaeth yr unawd offerynnol. Y darn a berfformiwyd ganddo oedd “La Serenata” gan Braga, ac mae taflen adborth y beirniad wedi aros gyda’r eitem ym meddiant y teulu ers hynny.

Daethpwyd â’r eitemau i’r Llyfrgell Genedlaethol, ble bu aelodau o dîm Casgliad y Werin yn sganio’r deunydd, tynnu ffotograffau o’r offeryn ac yn gwneud recordiad sain. 

Owner:
Ann Jones
Crëwr:
John Owen
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2015
Eitem wedi’i llwytho:
23/3/2015
Gwelediadau:
1241
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment