Jim Bootle, Ysgol Bedford, Bootle
Jim Bootle, Ysgol Bedford, Bootle
Disgrifiadau
Llun heb ddyddiad o ddosbarth B, Ysgol Bedford yn Lerpwl. Gweler James Lewis Roberts (‘Jim Bootle’, 1916 – 1978) yn y rhes flaen, y 3ydd o'r dde.
Bu Jim yn byw yn Lerpwl gyda'i deulu fel rhan o gymdeithas Cymraeg y ddinas. Yn 1929, bu'n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd gyntaf erioed yng Nghorwen, lle gafodd y drydedd wobr yn yr unawd offerynol.
Yn 2015, daethpwyd â sawl eitem sy'n gysylltiedig â Jim Bootle i’r Llyfrgell Genedlaethol, gan gynnwys ei ffidil, ble bu aelodau o dîm Casgliad y Werin yn sganio’r deunydd, tynnu ffotograffau o’r offeryn ac yn gwneud recordiad sain.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment