Cymuneddau Iddewig yn Ne Cymru - Clipiau sain o'n cyfweliadau hanes llafar

Fel rhan o'n prosiect cyntaf, 'Cofnodion a Thystiolaethau Cymuned Iddewig De Cymru' ('The Record and Testemonies of the South Wales Jewish Community'), fe wnaethom ni recordio a thrawsgrifio dros 70 o ddarnau hanes llafar gan aelodau o gymunedau Iddewig lleol, yn cynnwys llawer gan rai sydd bellach wedi symud i ffwrdd. Mae'r recordiadau a'r atgofion maent yn eu cynnwys yn creu darlun byw o sut beth oedd tyfu i fyny yn y cymunedau hyn yn nhrefi a dinasoedd de Cymru yn y rhan gynharaf o'r ugeinfed ganrif. Gellir cael mynediad i'r recordiadau a'r trawsgrifiadau llawn yn Llyfrgell Genedalethol Cymru, ond mae 193 o glipiau o'r rhain wedi eu huwchlwytho yma.

Mae 187 eitem yn y casgliad