Adroddiadau Blynyddol Cynghair y Cenhedloedd Cymru (1922-1943)

Adroddiadau Blynyddol Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru (1922-1943).
Disgrifiad o'r casgliad:
Mae'r casgliad hwn yn cynnwys adroddiadau blynyddol Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru. Mae'n cynnwys pob adroddiad blynyddol a gynhyrchwyd gan y mudiad rhwng 1922-1943. Lleolir copïau ffisegol o'r adroddiadau hyn yn y Deml Heddwch ac Iechyd (Caerdydd, Cymru). Maent wedi'u digido gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru i nodi diwedd y prosiect 'Cymru Dros Heddwch'.
Gellir defnyddio'r adnodd hwn i ddysgu am Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru. Gellir ei ddefnyddio hefyd i ddarganfod sut yr oedd Cymru'n rhyngweithio â'r byd rhyngwladol a sut roedd y byd rhyngwladol yn deall Cymru.Er nad yw'r adroddiadau hyn yn cyflwyno holl hanes Cynghrair y Cenhedloedd yng Nghymru, maent yn rhoi crynodeb gwych.
Lluniwyd capsiwn i gyd-fynd â phob adroddiad. Mae'r rhain yn rhoi crynodeb byr o'r hyn y gellir ei weld yn yr adroddiad. Mewn mannau, darperir gwybodaeth sy'n gosod yr adroddiad mewn cyd-destun ehangach.
Gwybodaeth am yr adroddiad blynyddol:
Mae'r cyfnod sy'n cael ei gwmpasu gan yr adroddiadau yn dechrau'r broses ffurfiol o sefydlu Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru (gweler isod adran o'r enw 'cyd-destun i Gynghrair Cymru o'r Cenhedloedd Unedig 'am fwy o wybodaeth).
Dechreuodd yr adolygiad blynyddol adeg Sulgwyn un flwyddyn ac yn rhedeg hyd at Sulgwyn y flwyddyn ddilynol. Fodd bynnag, byddai'r taflenni ariannol (a geir tuag at ddiwedd pob adroddiad yn aml), yn cael eu dyddio o'r diwrnod olaf bob blwyddyn. Roedd hyn oherwydd y modd roedd y Pwyllgor Cyllid yn cofnodi ei gyllid.
Nid yw'n eglur pa unigolion a gafodd y cyfrifoldeb o lunio'r adroddiadau blynyddol. Fodd bynnag, fe'u cefnogwyd gan y Pwyllgor gwaith (y rhai sy'n gyfrifol am redeg Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymreig). Ar gyfer rhifynnau yn y 1930au, cynhyrchodd y Parch. Gwilym Davies ysgrifeniadau o adrannau penodol oedd yn cynnwys crynodeb o ddigwyddiadau rhyngwladol a manylion am Neges Ewyllys Da Plant Cymru.
Roedd yr adroddiadau blynyddol yn dangos sut roedd Cymru'n hyrwyddo'r Gynghrair ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol. Fel arfer byddent yn cynnwys trafodaeth ar y canghennau, aelodaeth a digwyddiadau a ddefnyddiwyd i hysbysebu'r Gynghrair. Roedd gwaith Pwyllgor Addysg Ymgynghorol Cymru yn ymddangos yn rheolaidd yn yr adroddiadau blynyddol. Roedd hyn yn dangos sut yr oedd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru yn gweithio i hyrwyddo addysg ryngwladol ac addysgu 'Dinasyddiaeth Byd'. Roedd Datrysiadau a fabwysiadwyd gan Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru mewn ymateb i ddigwyddiadau rhyngwladol hefyd yn rhywbeth oedd yn nodweddu'r adroddiadau blynyddol.
Cyd-destun i Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru:
Yn 1920, ar ôl cadarnhau Cytundeb Versailles, daeth Cynghrair y Cenhedloedd i fodolaeth yn swyddogol. Trafodwyd y syniad o sefydlu'r Gynghrair ymhell cyn y Cadoediad 1918. Datblygodd Cynhadledd Heddwch Paris y syniad o'r gynghrair i fod yn realiti. Cafodd y cyfrifoldeb o gynnal heddwch byd drwy hyrwyddo cydweithredu a defnyddio cyflafareddu i ddatrys anghydfod. Roedd yn ofynnol i wladwriaethau oedd yn aelodau o'r gynghrair i ddod at ei gilydd i herio gweithredoedd ymosodol gan genedl gwerylgar. Roedd meysydd eraill o'i gylch gorchwyl yn cynnwys gofal dros iechyd byd-eang, diogelu lleiafrifoedd yn Ewrop a masnachu pobl.
Fodd bynnag, ymestynnai dylanwad y Gynghrair y tu hwnt i lywodraethau a chynrychiolwyr rhyngwladol. Ysbrydolodd y Gynghrair ddiwylliant fywiog o actifiaeth gymdeithasol a phrotestio gwleidyddol.Fe wnaeth miliynau ledled y byd roi eu ffydd yn y Gynghrair er mwyn cadw'r heddwch. Daeth dwsinau o gymdeithasau i'r amlwg yn Ewrop, ac ym mhob cwr o'r byd, a oedd yn ymwneud â'r egwyddorion a gyflwynwyd gan y Gynghrair. Er eu bod yn amrywio o ran maint, roedd y mudiadau hyn yn rhwydweithiau bywiog oedd yn gweithio'n ddiflino i hyrwyddo'r Gynghrair a rhyngwladoldeb.
Yn dilyn y Cadoediad yn 1918, ymunodd Cymdeithas Cynghrair y Cenhedloedd â Chymdeithas y Cenhedloedd Rhydd (dau fudiad a oedd yn ffafrio cysyniad y Gynghrair yn ystod y rhyfel byd cyntaf) gyda'i gilydd i greu Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Prydeinig. I ddechrau, cafodd gwaith Cymru ei gynnal dan ymbarél model Prydain. Roedd canghennau Cymru yn talu tanysgrifiad i fudiad Prydain.
Cymerodd mudiad Cynghrair y Cenhedloedd Gymreig amser i ddatblygu. Eisteddfod 1918 Castell-nedd oedd y tro cyntaf i greu mudiad Cymraeg gael ei drafod. Ym mis Mai 1920, arweiniodd cyfarfod yn Llandrindod at greu Pwyllgor Gweithredol. Eu cyfrifoldeb hwy oedd rheoli gweithgareddau a oedd yn gysylltiedig â'r Gynghrair hyd nes y gellid ffurfio Cyngor Cenedlaethol parhaol i Gymry. Ym mis Ionawr 1922, yn sgil y gefnogaeth gynyddol i fudiad Cymru cafwyd rhodd ariannol gan yr Arglwydd David Davies o Landinam. Y canlyniad oedd sefydlu Cyngor Cenedlaethol Cymru Undeb Cynghrair y Cenhedloedd. Cynhaliwyd cynhadledd flynyddol gyntaf y Gynghrair yn Llandrindod yn ystod Pasg 1922. Yn y gynhadledd hon, penderfynwyd y byddai Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru yn hunan-lywodraethu mewn materion yn ymwneud â'r gynghrair a oedd yn effeithio ar Gymru a Sir Fynwy. Daeth i fod yn annibynnol yn ariannol ac yn weinyddol o'r mudiad ym Mhrydain. Roedd yn gyfrifol am drefnu canghennau ac am benderfynu sut i weithredu rhyng-genedlaetholdeb ar gymdeithas. Er gwaethaf yr annibyniaeth yma, parhaodd mudiadau Cymru a Phrydain i gydweithredu â'i gilydd ar wahanol adegau yn ystod y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd er mwyn cryfhau sefyllfa'r Gynghrair o fewn y gymdeithas.

Mae 22 eitem yn y casgliad

  • 1,801
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,635
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,515
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,166
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 933
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 689
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,416
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,242
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 798
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 658
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 734
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 687
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 863
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 811
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 794
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 926
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 941
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 981
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 706
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 772
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 863
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 933
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi