Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

'Heddwch' yw cylchgrawn cefnogwyr CND Cymru, Ymgyrch Cymru dros Ddiarfogi Niwclear, a gyhoeddwyd tua chwarterol o 1985 (yn dilyn sefydlu CND Cymru fel rhwydwaith ymgyrchu annibynnol o 1981), hyd heddiw. I ddechrau, 'Ymgyrch Cymru' tan 1991, pan fabwysiadwyd y teitl llawer mwy adnabyddus 'Heddwch'.
 
Mae CND Cymru, Ymgyrch Cymru dros Ddiarfogi Niwclear, yn gweithio dros heddwch, cyfiawnder a diarfogi rhyngwladol, a thros byd lle gall yr adnoddau enfawr sy'n cael eu rhoi i filwriaeth gael eu hailgyfeirio er mwyn cwrdd â gwir anghenion y gymuned a'r amgylchedd. Mae pob rhifyn o 'Heddwch' ac 'Ymgyrch Cymru' yn cynnwys diweddariadau ar gynnydd ymgyrchoedd a gweithgareddau CND ledled Cymru, gyda llawer o gyfeiriadau penodol at gymunedau, gweithredwyr a mudiadau Cymru; mae'n ffynhonnell amhrisiadwy ar gyfer archwilio treftadaeth heddwch Cymru dros y 4 degawd diwethaf.
 
Mae Archif CND Cymru ar Gasgliad y Werin Cymru, gafodd ei digido gan dîm 'Cymru dros Heddwch' Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, yn dwyn ynghyd gyhoeddiadau a chofnodion cefnogwyr CND Cymru rhwng 1981 a heddiw, gan gynnwys:
• Cylchgrawn 'Ymgyrch Cymru' 1-20 (1985-1991)
• Cylchgrawn 'Heddwch' 1-74 (1991 i 2020)
• Atodiadau 'Heddwch Action News' 1-14 (1992 i 2006) a thaflenni gwybodaeth
• 'Ymgyrch Byncer Pen-y-bont ar Ogwr' 1982 Casglu cylchlythyrau, Clipiau i'r Wasg ac Adroddiadau Ysgrifenedig.
 
Cedwir archifau papur CND Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a gellir eu chwilio drwy Gatalog LlGC o dan 'CND Cymru National Archive'.
 
 

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw