Cymru a'r Byd 1939-1940
Disgrifiadau
Adroddiad blynyddol 1939-1940 y Pwyllgor Gwaith i Gyngor Cenedlaethol Cymru Undeb Cynghrair y Cenhedloedd oedd y cyhoeddiad cyntaf ers i'r Ail Ryfel Byd dorri. Gellir gweld ar y clawr mewnol bod hyd y cyhoeddiad wedi'i leihau ar argymhelliad y Pwyllgor Cyllid i 'un chwarter ei hyd arferol'. Parhaodd y duedd hon yn achos adroddiadau blynyddol drwy gydol yr Ail Ryfel Byd. Er gwaetha'r ffaith i'r rhyfel dorri, mae'r adroddiad hwn yn dangos parhad mewn gweithgareddau oedd gysylltiedig â'r gynghrair yng Nghymru. Caiff gwybodaeth benodol am waith canghennau unigolion ei hepgor. Fodd bynnag, ni chafwyd newid mawr yn y ffigurau aelodaeth. Mae'r pamffled yn sôn am waith ar addysg, Neges Ddi-wifr y Byd a derbyniad yr Eisteddfod Genedlaethol i ymwelwyr o dramor.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment