Stori John Lloyd Davies, Aberteifi (1875-1952)

Cafodd John Lloyd Davies ei eni yn Aberteifi ym 1875. Ym 1917, roedd yn gweithio fel 2il Beiriannydd ar yr agerlong TRONGATE pan gafodd ei suddo gan dorpido wedi’i danio gan yr UC 71 dan reolaeth y KapLt Ernst Steindorff. Dihangodd John Lloyd Davies ond lladdwyd dau o’i gyd-longwyr yn ystafell yr injanau. Ym mis Hydref 1918, roedd yn gweithio ar y REDRUTH. Derbyniodd Fedal y Llynges Fasnachol a Medal Ryfel Prydain yn y man am ei wasanaeth yn y llynges fasnachol. Mae’n ymddangos iddo ymddeol rywbryd tua 1938, ar ôl bod yn gweithio fel peiriannydd ar fwrdd yr ANTHEA. Bu’n byw yn 'Clarington', Priory Street, Aberteifi, gyda’i wraig Margaret (Hazelby gynt) a’u merch Eluned, a bu farw ym 1952.

Cafodd yr hanes ei ddwyn i sylw’r Prosiect Llongau-U 1914-18 gan Colin Thomas, ŵyr John Lloyd Davies, a roddodd ganiatâd caredig i ni i’w rhannu.

Mae 4 eitem yn y casgliad

  • 707
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 659
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 647
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 639
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
Adborth