Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cafodd John Lloyd Davies ei eni yn Aberteifi ym 1875. Ym 1917, roedd yn gweithio fel 2il Beiriannydd ar yr agerlong TRONGATE pan gafodd ei suddo gan dorpido wedi’i danio gan yr UC 71 dan reolaeth y KapLt Ernst Steindorff. Dihangodd John Lloyd Davies ond lladdwyd dau o’i gyd-longwyr yn ystafell yr injanau. Ym mis Hydref 1918, roedd yn gweithio ar y REDRUTH. Derbyniodd Fedal y Llynges Fasnachol a Medal Ryfel Prydain yn y man am ei wasanaeth yn y llynges fasnachol. Mae’n ymddangos iddo ymddeol rywbryd tua 1938, ar ôl bod yn gweithio fel peiriannydd ar fwrdd yr ANTHEA. Bu’n byw yn 'Clarington', Priory Street, Aberteifi, gyda’i wraig Margaret (Hazelby gynt) a’u merch Eluned, a bu farw ym 1952.

Mae’r lluniau’n dangos John Lloyd Davies yn ddyn ifanc, y consertina a chwaraeai yn ei ddyddiau fel llongwr masnach, a’i ŵyr, Colin Thomas, yn chwarae’r offeryn heddiw.

Cafodd yr hanes a’r lluniau eu dwyn i sylw’r Prosiect Llongau-U 1914-18 gan Colin Thomas, ŵyr John Lloyd Davies, a roddodd ganiatâd caredig i ni i’w rhannu.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw