Skip to main content

Welsh Heritage Schools Initiative

Menter Ysgolion Y Dreftadaeth Gymreig
Lansiwyd y Fenter ym 1990, dan nawdd y Sefydliad Materion Cymreig. Y nod yw annog pobl ifanc mewn ysgolion yng Nghymru i ymddiddori mwy yn eu treftadaeth ac yng nghyfraniad eu teuluoedd a'u cymunedau i'r dreftadaeth honno. Mae'r Fenter yn cynnal cystadleuaeth flynyddol ar gyfer projectau treftadaeth yn ysgolion Cymru.
Gobeithiwn wella addysg pobl ifanc yng Nghymru, a gwella eu sgiliau darllen a sgrifennu, rhifyddeg a TGC drwy astudio hanes a diwylliant Cymru, i'w galluogi i werthfawrogi eu treftadaeth a helpu i'w diogelu.
 
Profile picture for user catalena_angele
Dyddiad Ymuno:
03/10/2014

Gweld pob eitem