‘The Legacy of Van Mansion’ gan 3H, Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin. Enillwyr Gwobr Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2017
Project hynod ddiddorol ynghylch Plasty’r Fan gan ddisgyblion blwyddyn 3 yn Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin yw ‘The Legacy of Van Mansion’. Plasty Tuduraidd yw Plasty’r Fan, a gellir ei weld o faes parcio’r ysgol. Bu plant blwyddyn 3 yn ymchwilio i hanes y plasty, y Tuduriaid a’r cysylltiad â Chastell Caerffili. Bu’r disgyblion hefyd yn helpu i greu tudalen wych ar wefan yr ysgol ar gyfer y project, yn ogystal â thaflen wybodaeth er mwyn i’r gymuned gael dysgu am y pwnc. Enillodd y project hwn Wobr Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2017.
Gwefan y project: http://www.cwrtrawlinprimary.co.uk/year3h-heritage-project
Linc i’r daflen wybodaeth: https://www.peoplescollection.wales/items/573749
Mae'r Fenter Ysgolion Y Dreftadaeth Gymreig yn cynnal cystadleuaeth flynyddol ar gyfer projectau treftadaeth yn ysgolion Cymru. Y nod yw annog pobl ifanc mewn ysgolion yng Nghymru i ymddiddori mwy yn eu treftadaeth ac yng nghyfraniad eu teuluoedd a'u cymunedau i'r dreftadaeth honno. http://www.whsi.org.uk/cymraeg.html
Sylwadau Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig ar y project:
Roedd hwn yn brosiect diddorol iawn a gipiodd ddychymyg y plant. Gan symud oddi wrth astudiaeth amlwg o hanes Castell Caerffili, penderfynodd disgyblion Bl3 ganolbwyntio ar dirnod lleol arall, sef Plasty’r Fan, sy’n llai adnabyddus, ond yn wir, fod gan ei wreiddiau, fel y darganfuwyd, gysylltiad â’r castell.
Aeth eu hastudiaethau â hwy i gyfeiriadau amrywiol a fu’n gyfrwng nid yn unig i ehangu eu gwybodaeth am y plasty ond hefyd am fywyd yn Oes y Tuduriaid. Mae’r dosbarth wedi adeiladu gwefan a fydd yn addysgu’r gymuned leol am blasty sy’n adnabyddus i bawb sy’n byw yn yr ardal.
http://www.whsi.org.uk/Resources/MYDG_2017.pdf
Rhoddwyd sylw i’r project mewn datganiad i’r wasg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment