Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Darllenwch fwy am y Drwydded Archif Greadigol.
Disgrifiad
Cyfweliad Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin gyda Mr Cole, perchennog Plasty'r Fan. Rhan o broject treftadaeth Gymreig ynghylch Plasty'r Fan gan ddosbarth 3H, Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin, Caerffili. Plasty Tuduraidd yw Plasty'r Fan, a gellir ei weld o faes parcio'r ysgol. Bu plant blwyddyn 3 yn ymchwilio i hanes y plasty, y Tuduriaid a'r cysylltiad â Chastell Caerffili. Bu'r disgyblion hefyd yn helpu i greu tudalen wych ar wefan yr ysgol ar gyfer y project, yn ogystal â thaflen wybodaeth er mwyn i'r gymuned gael dysgu am y pwnc. Enillodd y project hwn Wobr Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2017.
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw