Llysgenhadon LleCHI
Dyddiad ymuno: 17/02/20
Amdan
Bywgraffiad CY:
Roedd Llysgenhadon Ifanc LleChi yn brosiect ar y cyd rhwng cais Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, prosiect LleChi ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Gwnaethpwyd y prosiect yn bosibl trwy arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Prosiect cyffrous i ddod â phobl ifanc ardaloedd llechi gogledd Cymru at ei gilydd, a thrwy gyfres o weithdai, ymweliadau a digwyddiadau, eu harfogi â gwybodaeth am eu treftadaeth a’u diwylliant a’u datblygu’n Llysgenhadon Ifanc i’r Safle Treftadaeth y Byd.
Dyfarnwyd Statws Safle Treftadaeth y Byd i Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn ystod Haf 2021.