Skip to main content

Ymweliad Llechwedd a Bounce Below 29/9/19

Disgrifiadau

Twristiaeth ddiwylliannol bellach yw ein diwydiant yn yr ardaloedd ôl ddiwydiannol, a dyma bwrpas UNESCO sef ddenu twristiaeth i gael profiad o'n hardaloedd, ac i rannu ein hanesion o'n golygfeydd godidog.

Felly, braf oedd cael gweld fy ardal a gweld trwy lygad estronwyr am y dydd. Fe gawsom ni dair antur trwy chwareli Stiniog boed rhain odanodd neu uwch ben yn yr awyr agored. Cafon ni daith mewn hen gerbyd milwrol yr oedd wedi ei drawsnewid i weld gwythiennau'r chwarel o ffyrdd llychlyd o'n blaenau.

Wedi hynny, fe aethom ni i lawr o dan y ddaear, gan ymweld gyda'r elfennau newydd yn yr hanes gan ddod a'r straeon ac ysbryd y caban yn fyw. Wrth edrych yn ol, fe welaf yr oedd yn agoriad llygad gan ein bod ni fel ymwelwyr yn cynrychioli llysgenhadon ifanc LleCHI ar gyfer y cais wedi cael y cyfle i hollti gyda 'jumpar' a gweld beth yr oedd hi fel i fod yn hongian oddi ar raff mewn ceudwll, ond, wel, wrth gwrs, mewn ffordd mwy diogel na fyddai'r chwarelwyr eu hunain wedi bod flynyddoedd yn ol.

Wedi i ni ddeillio o'r dyfnderau, fe lowcion ni ginio blasus i lawr, a gwneud ein ffordd tuag at un o rannau mwyaf cyffrous yr ymweliad, sef Bounce Below, sy'n barc trampolinau tanddaearol yng ngheudyllau Llechwedd. Wrth i mi edrych ar y rhannau addysgiadol ohono rwan, gwelaf yr oedd yn ffordd o gyfuno hanes a hwyl ac yn ddefnydd hynod o dda o'r ogofau. Roedd hefyd yn ffordd i weld o berspectif newydd antur ymhlith yr hanes.

Felly, yn y llun, mae chwech o lysgenahadon ifanc LleCHI wrthi yn gweld sut yr oeddent yn hollti llechi gyda'r 'jumpars'.

Owner:
Llysgenhadon Ifanc LleCHI
Crëwr:
Llysgenhadon Ifanc LleCHI
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
15/6/2020
Date originally created:
Gwelediadau:
1170
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment