Skip to main content

Gŵyl Fwyd a Chrefft Glynllifon 16 Tachwedd, 2019

Disgrifiadau

Braf oedd cael cyfarfod a phobl leol a thrafod yr enwebiad UNESCO yn y ffair fwyd a Chrefft flynyddol Gynllifon. Drwy gydol y dydd buom ni, y llysgenhadon ifanc LleCHI, yn holi, trafod, codi ymwybyddiaeth a chynnig cystadleuaeth i’r cyhoedd. Roedd ein stondin yn cynnwys hen luniau o’r chwareli a’r cymunedau a chafodd eu creu fel canlyniad i’r cyfnod llechi, a hefyd y gystadleuaeth yn gofyn iddynt ofalu faint o dunelli o lechi gogledd Cymru cafodd ei allforio i roi do ar adeiladau ledled y byd. Doedd llawer ddim wedi sylweddoli bod llechi Cymru ar doeau enwog adeiladau enwog fel y ‘Tŷ Gwyn' yn UDA a hefyd, erbyn y 1890au roedd y diwydiant llechi yn cynhyrchu tua 485,000 tunnell o lechi'r flwyddyn! Roedd hefyd yn dda i glywed bod pob unigolyn wedi clywed neu yn gwybod am yr enwebiad UNESCO a hefo sylwadau positif am ddyfodol ardal llechi gogledd Cymru.

Gwelwch yn y lluniau: ein stondin, dau o’n llysgenhadon ifanc Swyn a Huw, y hamper fel gwobr y gystadleuaeth ac enillydd y gystadleuaeth.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
3/7/2020
Date originally created:
16/11/2019
Gwelediadau:
496
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment