arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

WILLIAM DAVIES (Wil Penlon) 1901 – 1982

William Davies a anwyd ac a fagwyd yn y bwthyn bach Penlon Gilfach, Llangeler, ac a ddaeth yn ôl i fyw i Milford House, Alltpenrhiw, Drefach- Felindre oedd y canwr clasurol a phroffesiynol cyntaf erioed o’r ardal.

Eitemau yn y stori hwn

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

William Davies (Wil Pen-lôn), Dre-fach Felindre...

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

William Davies (Wil Pen-lo'n), Dre-fach Felindre

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Cast pantomeim, Neuadd y Ddraig Goch, Felindre

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Bedd Wil Pen-lôn, Dre-fach Felindre


William Davies a anwyd ac a fagwyd yn y bwthyn bach Penlon Gilfach, Llangeler, ac a ddaeth yn ôl i fyw i Milford House, Alltpenrhiw, Drefach- Felindre oedd y canwr clasurol a phroffesiynol cyntaf erioed o’r ardal. Mae hanes ei fywyd fel canwr wedi cael ei groniclo gan William Davies, yn ei ysgrifen ei hun, mewn ‘copy book’ clawr caled. Cyflwynodd y diweddar Miss Velia Davies, 6, Trewern, Saron (a gynt o Benlongilfach) a merch Eben Davies, brawd William Davies y llyfr hwn  i mi (Peter Hughes Griffiths) flynyddoedd lawer yn ôl.



Mae’r llyfr hwnnw yn awr gyda’r geiriau VISITORS’ BOOK ar y clawr a’r teitl ‘AMSER YW GOFIO – HEN ADGOFION AN FY NHAD A HEN GYMERIADAU CEFN GWLAD – W Davies,



Fown-Ditt (?), Whinney Hill, Durham City (Wil Penlon) ar y tu mewn yn awr yng nghasgliad STORI FAWR DREFACH-FELINDRE yn yr Amgueddfa Wlan Genedlaethol.



Gan ddilyn hanes ‘Wil Penlon’ allan o’i lyfr, cyhoeddais trwy ddethol o’r cynnwys erthyglau yn y papur bro Y Garthen. Cyhoeddwyd y gyntaf yn Rhagfyr 1993 ac yna’r 6 arall yn fisol tan Mehefin 1994.



Yn ogystal cyhoeddais lyfryn yn cynnwys yr un deunydd o dan y teitl ‘WIL PENLON’



Mae’n bwysig cofio i Wil Penlon ysgrifennu hanes ei fywyd pan yn byw yn Durham City a chyn iddo ddod nol i fyw i Milford House yn Alltpenrhiw. Ar ôl iddo ddod nol bu’n weithgar iawn yn gerddorol a cheir crynhodeb o hynny yn dilyn copi o’r erthyglau yn Y Garthen.



Carmarthen Journal February 17, 1928.



“During the past weeks a singer from Shir Gar has been delighting London audiences at The Theatre Royal with his exceptional bass voice.



He is Mr William Davies, Penlon Gilfach, Llangeler, Llandyssul and has now been signed on to sing at the Tivoli, one of the most magnificent Picture houses in the kingdom.



A prominent London music publishing firm approached Mr Davies with a View to acquiring his Services AS a song demonstrator.



In his audition last week with the firm he delighted them and was immediately given a contract.



For this work the Essentials are a good voice, a thorough sight reading Power ans all- round knowledge. His work begins in May and he will appear at one of the following towns – Blackpool, Douglas Or Scarborough. Twenty seven years old, he has studied music under Mr Haydn Morris, Merthyr, and at the University College Aberystwyth where he gained two diplomas.”



Fel y nodwyd fe ddaeth William Davies nol i fyw ar ôl ei deithio fel canwr proffesynol ac ar dudalen 65 o’r llyfr lluniau  Canrif o Luniau – Plwyf Llangeler, mae llun o William Davies gyda’i barti canu Master Singers. Yr unig ddau sydd hefyd ym mharti Wythawd Albert Evans yw Jim Davies (Jim Pensarn) a Wil Jones (Wil Velindre View) yr adroddwr.  Mae’n amlwg fod Wil Velindre View yn cynnal nosweithiau gyda’r ddau barti canu!



Bydd llawer yn cofio’n dda am y ‘Pantomeimiau’ (Pantomimes) yr arferai William Davies (Wil Penlon) eu cyflwyno yn hen Neuadd y Ddraig Goch yn y 1940’au. Fe a’i wraig a drefnai’r cyfan gyda llond y lle o oedolion, pobl ifainc a phlant ardal Drefach-Felindre yn cymryd rhan.



Mae’r lluniau canlynol yn dyst o hynny. Byddai’r pantomeim yn cael ei berfformio sawl gwaith yn ystod yr wythnos a phantomeim gwahanol yn flynyddol.



Bu farw  ‘Wil Penlon’ ar Chwefror 3ydd 1982 yn 81 oed ac fe’i claddwyd ym mynwent Capel Saron.


Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw