ALBERT EVANS 1890 – 1955

Eitemau yn y stori hon:

  • 658
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,096
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Yn ystod y rhyfel mawr 1914-1918 bu raid i Albert fynd i weithio tan ddaear fel glöwr yng Nghaerau, Maesteg ac yno fe ddaeth yn ‘Bandmaster’ y seindorf leol.  Bu’r seindorf o dan ei arweinyddiaeth yn cystadlu yn y Crystal Palace yn Llundain ac ennill y wobr gyntaf. Roedd hyn yn gryn gamp gan mai cystadleuthau Crystal Palace oedd penllanw bandiau Prydain i gyd. Ei brif offeryn yn y band oedd y cornet.

Gweler y llun "Parti Meibion Bargod Teifi".

Cafodd ddamwain yn 1917 a dychwelodd i Felindre i fyw gan agor Siop Bridge Stores (Glanyr afon – y tŷ nesaf at pont afon Esgair gyferbyn ag Ysgol Penboyr.)  Priododd gyda Mary Evans yn 1921 ac aeth ati i adeiladu tŷ a siop newydd y Central Stores yng nghanol y pentref (gyferbyn a’r hen Neuadd y Ddraig Goch a nesaf at y neuadd newydd). Daeth y siop yn enwog fel ‘Siop Albert’ ac yn gwerthu pob math o fwydydd a nwyddau. Fe gawso nhw un mab sef Alun Deri Evans a briododd gyda Lynda o Drefelin ac fe gawso nhw un ferch Eirlys.

COR BARGOD TEIFI 
Yn dilyn marwolaeth Daniel Jenkins fel arweinydd Cor Meibion Bargod Teifi gofynnwyd i Albert Evans i fod yn arweinydd newydd i’r côr yn 1919 a bu’n arweinydd wedyn am 36 o flynyddoedd tan ei farwolaeth yn 1955.

Fe gafodd Cor Meibion Bargod Teifi lwyddiant arbennig o dan arweinyddiaeth Albert Evans hefyd ac mae’r holl gwpanau yn dystiolaeth o hynny. Mae’r cwpanau rheini a’r baton a ddefnyddiau Albert wedi eu trosglwyddo i Adran Stori Fawr Dre-fach Felindre yn yr Amgueddfa Wlan ac mae’r canlynol hefyd yng nghasgliad ‘Stori Drefach-Felindre yn yr Amgueddfa Wlan Genedlaethol: a) Llun o’r Wythawd enwog a sefydlodd. Y llun o’r wythawd hefyd ar dudalen 95 o’r gyfrol ‘Canrif o Luniau Plwyf Llangeler’ a gyhoeddwyd ym Mehefin 2000 i ddathlu’r Mileniwm. b) Llun o Gor Meibion Bargod Teifi o dan arweiniad Albert Evans yn y 1950’au cynnar. c)  Rhaglen Bargod Teifi Male Voice Choir – A Final Rehersal (Awst 3ydd 1930)  ch) Cerdyn Angladd Albert Evans.

Roedd Albert Evans yn gerddor amryddawn. Bu’n arwain Cymanfaoedd Canu led-led Cymru a bu’n beirniadau mewn eisteddfodau’n gyson ar hyd y blynyddoedd. Ond, roedd un peth yn sicr – ‘doedd dim gwahaniaeth pa amser o’r nos fyddai adref o’r eisteddfod neu gyngerdd ar nos Sadwrn, byddai wrth yr organ am 10 y bore bob Sul yng Nghapel y Methodistiaid, Closygraig.  Bu yn Arweinydd y Gan ac yn Organydd yng nghapel Closygraig o 1917 tan 1955  sef am 38 o flynyddoedd. Roedd gan Albert gerddorfa fechan yng Nghlosygraig am gyfnod hefyd.

Yn y dyddiau cynnar bu’n cystadlu ar yr unawdau bariton a chael chryn lwyddiant a bu’n canu ar y Radio hefyd yng Nghaerdydd yn 1926 (peth anarferol iawn yn y cyfnod hwnnw!)

Enillodd Dystysgrif am safon ei ganu gan y ‘London College of Music’, ac yn 1931 derbyniwyd ef i’r Orsedd fel Cerdd Ofydd ar ôl llwyddo yn yr arholiad.

Cyfansoddodd Albert Evans dwy emyn don a chael ei wobrwyo am hynny mewn eisteddfodau. Enwodd un o’r tonau yn ‘Closygraig’ a’r llall yn ‘Gwyneth’.  Cyfansoddodd yr anthem ‘Cenwch i’r Arglwydd’ sydd wedi ei chanu fel ei emynau llawer gwaith ar hyd y blynyddoedd hyd at ein cyfnod ni.

SEINDORF
Albert Evans sefydlodd y ‘Drefach-Felindre Silver Band’, a medrai chwarae pob un o’r offerynnau.  Mawr oedd y pleser a gafodd yr holl ardal ar bob amgylchiad cyhoeddus wrth glywed sŵn y band, ac o gofio bod pob aelod o’r band hwn yn lleol. Mae’n debyg mai dim ond yn lleol roedd y band yn arfer chwarae e.e. Carnifal y Pentref a digwyddiadau tebyg. Bydd llawer yn cofio am Mr George Robins, Cwmpengraig yn chwarae’r ‘drwm mawr’ a’r holl storïau difyr amdano, ac yntau’n adrodd am ei gampau mewn acen gref dysgwr yr iaith Gymraeg!

WYTHAWD
Gweler y llun "Parti Canu Capel Clos-y-graig"
Yn ystod y Rhyfel Mawr 1939-1945 fe ymddangosodd Yr Wythawd dros 400 o weithiau er mwyn casglu arian i helpu’r bechgyn oedd yn y fyddin yn y gwahanol ardaloedd yn y rhan hon o’r wlad.  Albert Evans oedd yr arweinydd.

Yn y llun sydd ar dudalen 95 yn y llyfr Canrif o Luniau gwelir 8 o ddynion gyda Albert Evans yr arweinydd a Bronwen Jones y cyfeilydd. Ond mewn llun arall  o’r Wythawd mae William Jones – ‘Wil Velindre View’ yn eistedd gyda’r parti. 

Roedd ‘Wil Velindre View’ yn adroddwr poblogaidd iawn ac mae’n amlwg ei fod ef yn ymuno gyda’r Wythawd i gynnal eu cyngherddau. Fe welir ‘Wil Velindre View’ gyda parti canu William Davies (Wil Penlon) hefyd ac yn mynd gyda’r Teifi Master Singers i adrodd a chynnal cyngherddau.

(Yn ôl Mr Defi John Jones, Llwynon, Waungilwen – mab ‘Wil Velindre View’ roedd Parti Wythawd Albert Evans a pharti’r Master Singers  Wil Penlon yn mynd ar yr un pryd – a thipyn o densiwn neu ‘gythrel y canu’ yn codi rhyngddyn nhw ambell dro!)

Mae’n werth nodi i William Jones (Wil Velindre View) gynnal cannoedd o gyngherddau fel arweinydd ac adroddwr amrywiol o ddarnau difrif a digri gyda Pharti Evan Jones a’i deulu, Fferm Y Leger, Meidrim, yn y pedwar a’r pum degau i godi arian at Ysbyty Caerfyrddin yn Heol y Prior.  Byddai Evan (neu Ianto) Leger a’i wraig a’i blant yn cynnal noson gyfan o adloniant gyda ‘Wil Velindre View’. Daeth y teulu yn enwog iawn ac roedd Evan yn canu ac yn iodlo i gyfeiliant ei gitâr, ac roedd gweld a chlywed y gitâr yn cael ei chwarae yn brofiad cwbl newydd i gynulleidfaoedd y cyfnod hwn.  Roedd ‘Wil Velindre View’ yn actiwr da hefyd ac chyn y rhyfel 1939-45 yn actio gyda Chwmni Drama Llanfair Orllwyn, Henllan a oedd yng ngofal eu offeiriad enwog Evan Davies (Evan Quaker Oats). Yn ôl y stori fe aeth y Parchedig Evan Davies i ymweld a phlant ysgol leol gan holi’r plant – “Ble ych chi wedi ngweld i o’r blaen?”  Ateb un plentyn oedd – “ Ar focs Quaker Oats Syr!”  Roedd hwn yn ateb da gan fod gan yr offeiriad wallt gwyn yn dod mas o dan ei het offeiriad fflat yn union fel y llun ar focs Quaker Oats – ac Ifan Quaker Oats fuodd ei enw ar lafar gwlad wedyn gan bawb!

Yn ôl rhai nodiadau fe sefydlodd Albert Evans yr hyn a elwid yn ‘Octets’ sy’n awgrymu ei fod wedi trefnu a hyfforddi mwy nag un parti.

Yn ogystal  bu’n dysgu Partion Plant hefyd gyda Mrs Sarah Jones, Trecoed.

Bu’r cerddor dawnus Albert Evans farw ar Fawrth 15ed 1955 yn 65 oed ac fe’i claddwyd ar y 19eg o Fawrth ym mynwent Sant Barnabas. Mae ei fedd gyferbyn a ffenest gefn yr eglwys.  Canodd Cor Meibion Bargod Teifi ‘Y Delyn Aur’ tu allan i’w dy Central Stores ar ddydd ei gynhebrwng.

( * Gallaf dystio i hynny gan yr oeddwn i’n grwt 15 oed ar Sgwâr y Gat, tu allan i’r eglwys wedi dod i weld yr angladd a chofiaf glywed y Cor yn canu ‘Y Delyn Aur’ tu allan i’r tŷ. P.H.G.)

Ar garreg fedd Albert Evans mae’r geiriau:

Er cof annwyl am  Albert O. Evans, Central Stores, Velindre. Hunodd Mawrth 15ed 1955 yn 65 mlwydd oed –

         Wedi pererindod bywyd – Ni gawn fwynhad

         Croesaw hedd a Duw i’n calon – mewn nefol wlad.

Hefyd am Mary ei briod hoff. Hunodd Tachwedd 16eg 1977 yn 88 mlwydd oed.

                 Maent wedi cyrraedd pen eu taith.

Yna, ar y cawg blodau :  Er cof am Albert Evans oddi wrth ei Ddosbarth Ysgol Sul.

Mewn marmor mae Llyfr Cerddoriaeth ar agor gyda sgôr a nodau cerddorol ar draws rhan uchaf y ddwy dudalen gyda’r geiriau :

Ni bydd diwedd fyth ar sŵn y delyn aur.

Er cof am ein hannwyl arweinydd Albert Evans oddi wrth Cor Meibion Bargod Teifi 1919-1955.

Mae cofeb fechan arall : Cofion annwyl am Uncle Albert oddi wrth Olive a Gareth.

Peter Hughes Griffiths. Hydref 2016.