DANIEL JENKINS 1866 – 1917

Eitemau yn y stori hon:

  • 753
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 874
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi


DANIEL JENKINS 1866 – 1917



Brodor o Cilybebyll ger Pontardawe oedd Daniel Jenkins ac yn  organydd Eglwys Cilybebyll pan yn ifanc iawn. Ar ol iddo dreulio peth amser fel ‘disgybl athro’ fe aeth yn fyfyriwr i Goleg Hyfforddi Caerfyrddin (Coleg Y Drindod) lle cafodd yrfa ddisglair cyn ei apwyntio’n athro yn Ysgol Llywel ger Trecastell, Sir Frycheiniog.  Yn 1892 fe’i penodwyd yn brifathro Ysgol Penboyr yn olynydd i Mr Rees Rees, C.M. a fu yno o 1866 tan 1892.



Gweler y llun "Athrawon Ysgol Penboyr" sy'n dangos Daniel Jenkins Prifathro Ysgol Penboyr gyda’i staff.



Ar wahân i fod yn athro da ac uchel ei barch gwnaeth gyfraniad helaeth i’r diwylliant a’r bywyd lleol ac yn enwedig y bywyd cerddorol.



Byddai plant yr ysgol yn cyflwyno eitemau cerddorol amrywiol mewn pob math o ddigwyddiadau ac yn perfformio yn yr Ysgoldy neu yn Eglwys Sant Barnabas yn rheolaidd.



Er enghraifft – Carmarthen Journal – 21 Mehefin 1907 – “School Concert, performance of the opereta ‘Snow White and the 7 Dwarfs’ – This year’s perfprmance was better than previous years.”  Cafwyd disgrifiad o’r cynnwys a phwy oedd yn cymryd rhan gyda chlod mawr. Noder bod Tom Morgan yn un o’r 7 Dwarfs!)



EGLWYS SANT BARNABAS

Fe oedd yr organydd a’r Cor Feistr yn Eglwys Sant Barnabas  gan berfformio oratorios o waith Handel, Haydn a Mendelssohn. Yr adeg honno roedd y gwaith gwlân a’r ffatrïoedd yn eu hanterth a daeth Daniel Jenkins a dimensiwn newydd i fywydau’r bobl. Roedd ei gor eglwysig yn cynnwys tair rhes yr un o denoriaid, baswyr ac altos o rhwng 20 a 25 mewn nifer yn ogystal a nifer fawr o sopranos, a bu’r côr yn enwog am genhedlaeth gan ganu yn ychwanegol at yr oratorios, anthemau ac emynau gan gerddorion uchel eglwysig fel – Goss, Weslery, Walminley, Hopkins, Stainer ac yn y blaen. Trwy ymdrechion Daniel Jenkins cafwyd Organ Bib i Eglwys Sant Barnabas  gan arwain y capeli i wneud yr un peth maes o law.



COR MEIBION BARGOED TEIFI

Pan oedd Mr Tom Luke, Darwell House, Henllan yn arwain Cor Meibion Bargoed Teifi enillwyd llawer o wobrau ar hyd a lled y wlad gan ennill ‘sefyllfa gymeradwy’ yn Eisteddfod Genedlaethol Llangollen yn 1908 pan ddaeth y cor yn ail a Chor  Manceinion yn gyntaf yng nghystadleuaeth y corau meibion.  Rhoddodd Mr Luke yr arweinyddiaeth i fyny yn 1909 ac ar gais yr aelodau fe gymerodd Mr Daniel Jenkins at y gwaith o arwain y côr. Yn 1910 o dan ei arweinyddiaeth enillwyd eisteddfodau taleithiol Llangeitho ac Emlyn ac yna yn 1911 enillodd Cor Meibion Bargoed Teifi y brif gystadleuaeth Corau Meibion yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin ar y dydd Sadwrn olaf.



(Ceir yr hanes hwnnw’n llawn o dan Hanes Cor Meibion Bargoed Teifi mewn adran arall o ‘Stori Fawr Drefach- Felindre’).



Gweler y llun "Parti Meibion Bargod Teifi, 1909".  Gan nad oes llun o’r Cor a enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin 1911 wedi dod i law hyd yn hyn – gellir bod yn siŵr bod y meibion hyn i gyd yn aelodau o’r côr hwnnw hefyd. Bydd angen cadarnhau mai Mr Daniel Jenkins yw’r gwr sy’n sefyll rhwng y ddwy gyfeilyddes yn y llun.



Yn y Carmarthen Journal yn dilyn y fuddugoliaeth fawr yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1911 ceir colofnau sy’n adrodd hanes y fuddugoliaeth a’r dathlu gan rhoi sylw hefyd yn Gymraeg ac yn Saesneg i’r arweinydd dawnus Daniel Jenkins. Mae llun o Daniel Jenkins yno hefyd.



Dyma rhai dyfyniadau’n unig o’r colofnau rheini ...



“Yn ystod yr ugain mlynedd mae wedi ennill yn deilwng iddo ef ei hunan le o barch gwirioneddol yn yr holl gymdogaeth.    Mae galw mawr wedi bod am ei wasanaeth fel cyfeilydd yn yr eisteddfodau lleol ac mae Mr Jenkins wedi bod yn gaffaeliad mawr iawn i gerddoriaeth  oddi ar ei ddyfodiad yma.  Medda r hanfodion goreu yr arweinydd a’r athraw.”



“He is popular in the truest sense of the word. He has done a great deal to improve singing throughout the thriving districts of Velindre and Drefach. When he came here nearly 20 years ago there was hardly a piano in the whole district and he was persuadaed to instruct local pupils, and it is due to his efforts that ‘pianoforte playing’ is quite general here today.”



(Mae’n werth nodi bod piano yn rhan bwysig o ddodrefn y rhan fwyaf o dai yn Nrefach-Felindre tua canol yr 20ed ganrif gyda’r rhan fwyaf o blant yr ardal yn cael gwersi piano gan hyfforddwyr lleol.  Mae’n amlwg felly mai dylanwad Daniel Jenkins ddegawdau yn gynt a sefydlodd yr arferiad cerddorol hwn.)



Sefydlodd Daniel Jenkins Gwmni Drama lleol hefyd a nodir yn y Carmarthen Journal Mai 24 1911 (ac yntau ar y pryd yn paratoi y Cor Meibion ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin!) -  Cwmni Drama o Felindre yn actio’r ddrama ‘Twm Sion Cati’ yn neuadd orlawn Henllan. Ceir disgrifiad manwl o’r ddrama a’r actorion ac yn nodi – “Clod mawr i Mr D J Jenkins C.M. a’i ddwy chwaer dalentog i ddwyn y gwaith i berffeithrwydd. Enwau rhai actorion: Miss H Morris, Miss Alice Davies, y ddwy Miss Jenkins, Mr Tom Young, Mr J R Davies. Twm Sion Cati’n fachgen – Mr Tom Morgan.



MARW’N SYDYN

Bu farw Daniel Jenkins yn sydyn o niwmonia ar Fedi’r 6ed 1917 ac yntau’n ddim ond 51 oed. Fe’i claddwyd ger drws Eglwys Sant Barnabas. Yno hefyd y claddwyd ei briod a’i chwiorydd y ddwy ‘Miss Jenkins’, athrawesau hefyd yn Ysgol Penboyr. (Miss Jenkins Fowr a Miss Jenkins Fach! Bydd llawer ohonom yn eu cofio’n byw yn ‘Cartref’ - y tŷ nesaf at The Hall – dau ddrws i fyny o dafarn John y Gwas). Nid oedd disgynyddion. Gosodwyd cof-golofn ar fedd y cerddor dawnus hwn gan Gor Bargod Teifi ac ar y garreg mae’r geiriau – This monument was erected by the members of the Bargod Teifi Parti. In loving Memory of the choir’s friend and conductor.Peace and still.



Hefyd ar y gof-golofn hon mae’r canlynol:



In Memory of DANIEL JENKINS C.M. School House, Velindre. Conductor of Bargod Teifi Male Voice Party (National Winners Carmarthen National Eisteddfod 1911). Died September 6 1917. Aged 51.



Also of MARGARETTA JENKINS, HIS RELICT; Died January 1, 1932. Aged 57.  (Gwraig Daniel Jenkins) Ystyr ‘RELICT’ yw gweddw. Yn Lladin ‘left behind’.



Also of ELIZABETH JENKINS. Died April 30, 1951. Aged 79 years.  (Chwaer Daniel Jenkins)



Also of MARGARET JENKINS. Died October 18, 1954. Aged 90 years. (Chwaer arall Daniel Jenkins.  Adnabuwyd y ddwy chwaer fel Miss Jenkins Fowr a Miss Jenkins Fach).



Y gof-golofn yw’r garreg fedd olaf ar y dde cyn cyrraedd drws Eglwys Sant Barnabas.



Ysgrifenwyd yn helaeth amdano yn y papurau lleol ar ôl ei farwolaeth ac yn y Gymraeg cafwyd teyrnged iddo gan ‘John y Gwas’ o dan y teitl ‘Y Diweddar Mr Daniel Jenkins, Ysgolfeistr Velindre’



Mae’r adroddiad Saesneg yn disgrifio’n fanwl ddydd yr angladd  e.e.



‘It was an impressive sight on the day of the funeral to see his little pupils numbering 300 lined up on the school grounds waiting for the body of their beloved master to be bourne out to his last resting place in the churchyard near by. Before leaving the grounds the well known Welsh hymn ‘Mae nghyfeillion adre’n myned’ was sung...



The little children sweetly sung ‘ The Christian’s Good Night’ over the grave which was followed by the vast congregartion singing ‘Ar ôl gofidiau’r ddyrys daith’.



Canodd Cor Bargod Teifi ‘Y Delyn Aur’ hefyd yn ystod y gwasanaeth o dan arweiniad ei cyn arweinydd Mr Tom Luke.



Mae darllen yr adroddiadau am Daniel Jenkins a’r gwaith diflino a wnaeth ef a’i ddwy chwaer dros y 25 mlynedd y bu’n Brifathro Ysgol Penboyr yn brawf o’i gyfraniad aruthrol i fywyd cerddorol ardal Drefach-Felindre.



Peter Hughes Griffiths. 2016