Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Eitemau yn y stori hon:

  • 647
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,448
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Dinas a Chadeirlan

 

Mae dinas a chadeirlan Tyddewi, cartref ysbrydol nawdd sant Cymru yn ymddyrchafu uwchlaw penrhyn gorllewinol pellaf Sir Benfro, ac mae wedi parhau'n fan sanctaidd a chyrchfan pererinion am fwy na mil o flynyddoedd.

Yn yr oesoedd canol sonnir bod dwy bererindod i Dyddewi'n gyfwerth ag un i Rufain. Mae safle gwreiddiol cymuned Gristnogol gynnar Tyddewi, a gredir oedd i'r gorllewin i'r ddinas, wedi cael ei golli i hanes ac archeoleg ac wedi mynd yn chwedlonol. Roedd bywyd y gymuned gynnar hon yn fyr, a chyn hir symudodd i'r mewndir i lannau Afon Alun lle saif y gaderilan heddiw. Erbyn y nawfed ganrif roedd Tyddewi neu Menevia yn fynachdy enwog yng Nghymru  ac yn ganolfan cwlt dilynwyr y sant. Tra bod rhannau cynharaf y gadeirlan yn dyddio i'r ddeuddegfed ganrif yn unig, mae'n debygol fod cynllun wal y clos canoloesol wedi dilyn llinell y lloc crefyddol a oedd yn bodoli yno cyn hynny.

Y nenfwd mawr canol

Mae nenfwd mawr canol eglwys Gadeiriol Tyddewi yn un o’r campweithiau mwyaf mewn pren yng Nghymru. Ond er bod crogaddurnau enfawr yn hongian yn drawiadol o’r to uwchlaw canol yr eglwys gadeiriol, nid oes iddynt unrhyw symbolaeth grefyddol o gwbl.

Er i’r to gael ei edmygu’n fawr ers diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, nid yw dyddiad ei godi nac, yn wir, enw’r sawl a’i cododd, yn hysbys. Cododd amryw o chwedlau yn ei gylch: dywedir iddo gael ei wneud o dderw o gorsydd Iwerddon, a chan grefftwyr o Fflandrys (neu rai ‘tramor’). Mae cymeriad y to fel petai’n perthyn yn bendant i’r Dadeni, yn enwedig o ran manylion y crogaddurnau. Mae iddo ddeuddeg bae (sy’n amlwg eu symbolaeth), a chrogaddurnau lle mae’r estyll mowldiedig yn croestorri ei gilydd. Ffurf cestyll bach sydd i’r crogaddurnau, ac arnynt mae cerfiadau o fath o fasgiau a phâr o ddolffiniaid a geid adeg y Dadeni.

Mae dyddiadau blwyddgylchau’r pren

 

Mae’r rhan o’r to sydd o’r golwg mor rhyfeddol â’r rhan sy’n weladwy. Yr unig ffordd o gyrraedd trawstiau’r to yw dringo grisiau cul o gerrig ym mhen gorllewinol canol yr eglwys a cherdded ar draws darnau plwm to’r ystlys at dyred arall o gerrig sy’n arwain o’r diwedd at y to cudd. Mae nenfwd canol yr eglwys yn hongian o do o frenhinbyst ac mae iddo bostyn canolog mawr sy’n cynnal astell y grib.

Mae dyddiadau blwyddgylchau’r pren yn adrodd stori annisgwyl o gymhleth. Cafwyd bod tri chyfnod i’r gwaith: casglu’r pren at ei gilydd yn gynnar yn yr unfed ganrif ar bymtheg; adeiladu’r nenfwd yn ystod ail chwarter yr unfed ganrif ar bymtheg; a chyfnod o’i atgyweirio a’i gyfnerthu ganol yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae’r dilyniant cymhleth hwnnw’n gyson â’r ffynonellau dogfennol sy’n dweud i’r to gael ei gomisiynu cyn 1509, iddo gael ei godi’n rhannol yn ystod y 1530au, ond na wnaed dim gwaith arno rhwng 1536 a 1548.

Fe wyddom ni, felly, pryd y codwyd y to, sef heb fod yn hir cyn y Diwygiad Protestannaidd. Dangosodd dilyniannau blwyddgylchau’r pren i’r to gael ei godi o dderw o Gymru ac nid (fel y mynnai’r chwedl) o Iwerddon. Beth am y crefftwyr tramor? Gall fod peth gwir yn hynny. Er bod toeon â brenhinbyst yn ddigon cyffredin yn y ddeunawfed ganrif, maent yn eithriadol o brin yng Nghymru a Lloegr tan i Christopher Wren a phenseiri eraill eu defnyddio yn yr ail ganrif ar bymtheg dan ddylanwad pensaernïaeth yr Eidal. Mae’r brenhinbyst yn y to yn awgrymu bod patrymau o’r cyfandir neu’r Eidal wedi dylanwadu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar do canol eglwys gadeiriol Tyddewi. Yn sicr, gellir hawlio’n eithaf pendant mai hwn yw’r to cynharaf o’r math hwnnw ym Mhrydain.