Skip to main content

Y nenfwd mawr canol, Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Disgrifiadau

Mae nenfwd mawr canol eglwys Gadeiriol Tyddewi yn un o'r campweithiau mwyaf mewn pren yng Nghymru. Ond er bod crogaddurnau enfawr yn hongian yn drawiadol o'r to uwchlaw canol yr eglwys gadeiriol, nid oes iddynt unrhyw symbolaeth grefyddol o gwbl.
Er i'r to gael ei edmygu'n fawr ers diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, nid yw dyddiad ei godi nac, yn wir, enw'r sawl a'i cododd, yn hysbys. Cododd amryw o chwedlau yn ei gylch: dywedir iddo gael ei wneud o dderw o gorsydd Iwerddon, a chan grefftwyr o Fflandrys (neu rai 'tramor'). Mae cymeriad y to fel petai'n perthyn yn bendant i'r Dadeni, yn enwedig o ran manylion y crogaddurnau. Mae iddo ddeuddeg bae (sy'n amlwg eu symbolaeth), a chrogaddurnau lle mae'r estyll mowldiedig yn croestorri ei gilydd. Ffurf cestyll bach sydd i'r crogaddurnau, ac arnynt mae cerfiadau o fath o fasgiau a phâr o ddolffiniaid a geid adeg y Dadeni

Owner:
RCAHMW
Crëwr:
RCAHMW
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
18/1/2011
Date originally created:
1/1/2003
Gwelediadau:
1988
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment