Skip to main content

Eels a plenty

Yn 1963, a minnau'n 8 oed, fe wnes i aros ym Mhorth Dafarch gyda fy nheulu. Rwy'n cofio'n glir imi fod yn padlo yn y môr a oedd yn fyw o lysywennod arian, ifanc. Roedd gollwng bwced i mewn am ychydig eiliadau yn unig yn golygu y gallech chi ddal nifer fawr o'r creaduriaid aflonydd.

Rwy'n cofio rhywun yn dweud wrthyf mai Llysywen Gyffredin oedd y rhain, a hyd y gallaf gofio roedden nhw'n rhy denau i fod yn Llysywen Tywod – a dweud y gwir byddai'r oedolion yn cyfierio atyn nhw fel 'careiau esgidiau'. Os mai'r Llysywen Gyffredin oedd y llysywennod ifanc hyn allai neb, bryd hynny, fod wedi rhagweld mor fregus a dan fygythiad fyddai'r rhywogaeth yma yn y dyfodol. Hyd yn oed os mai Llysywennod Tywod oedden nhw, mae eu ffawd wedi dirywio eithaf tipyn ers y dyddiau hynny.

Related items

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment