arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Yn 1963, a minnau'n 8 oed, fe wnes i aros ym Mhorth Dafarch gyda fy nheulu. Rwy'n cofio'n glir imi fod yn padlo yn y môr a oedd yn fyw o lysywennod arian, ifanc. Roedd gollwng bwced i mewn am ychydig eiliadau yn unig yn golygu y gallech chi ddal nifer fawr o'r creaduriaid aflonydd.

Rwy'n cofio rhywun yn dweud wrthyf mai Llysywen Gyffredin oedd y rhain, a hyd y gallaf gofio roedden nhw'n rhy denau i fod yn Llysywen Tywod – a dweud y gwir byddai'r oedolion yn cyfierio atyn nhw fel 'careiau esgidiau'. Os mai'r Llysywen Gyffredin oedd y llysywennod ifanc hyn, allai neb, bryd hynny fod wedi rhagweld mor fregus a dan fygythiad fyddai'r rhywogaeth yma yn y dyfodol. Hyd yn oed os mai Llysywennod Tywod oedden nhw, mae eu ffawd wedi dirywio eithaf tipyn ers y dyddiau hynny.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw