Gorsafoedd yr Albion

Eitemau yn y stori hon:


Perfformiwyd 'Gorsafoedd yr Albion', drama awyr agored trwy strydoedd Aberteifi ar Ddydd Llun y Pasg 2019 gan gast cymunedol. Yn cychwyn ar y Cei, cafodd y gynulleidfa ei diddanu gan y band Radwm wrth iddynt ymgasglu.
Cyflwynodd hanes yr Albion a'i theithwyr a'r fordaith beryglus dros yr Atlantic trwy leisiau ei phrif gymeriadau gan gynnwys perchennog y llong, Capten Tom Davies, yn annerch y dorf tu fas i'w swyddfeydd Bridge House (Y Grosvenor), y teulu Jones, tyddynwyr tlawd o Drelech a wnaeth y penderfyniad anodd i deithio i Brunswic Newydd, y pregethwr Eben Morris o Tŵr Gwyn wnaeth roi cymorth ysbrydol ar gyfer y daith, Capten Llywelyn, meistr defosiynol a'i long ddieflig. Crewyd argraff o tu mewn i'r llong yn adeilad y iard lo lle lefarodd y teulu benillion o faled 'Hanes Ail Fordaith yr Albion' yn adrodd am y cyfnod perthnasol o'r daith. Wrth lanio yn St Johns croesawodd y Capten Anthony Lockwood yr ymfudwyr cyn eu harwain allan at y cei unwaith eto. Yna gwahoddwyd 'Cyfaill' y dorf i groesi'r bont er mwyn sefydlu Aberteifi newydd a chadw cyswllt gyda'r teulu trwy greu cadwyn o bobl ar draws y bont. Wrth i'r golau bylu canodd y côr yr emyn 'Bydd Melys Lanio' mewn pedwar llais a rhwyfodd skif unigol tuag at yr aber yn cario mam-gu'r teulu oedd yn dal tewyn poeth o'i chartref yng Nghymru yn ei llaw, a nawr yn ei harwain hi at ei chartref newydd.



Dyma restr y cast a chriw yn llawn:



Y Band ar y Cei - Radwm (Delyth Wyn Jones a Helen Blackburn)



Cadpen Thomas Davies - Glen Johnson

Y Teulu Jones, Bryndu, Trelech, teithwyr i Brunswic Newydd

Megan Jones, Mamgu - Sandra Rose Thomas 

Morgan Jones (Y Graig), Tadcu - Richard Oernant

Martha eu merch - Helen Groth

Rebecca eu wyres – Shylar 

Mair eu ferch arall - Deri Morgan

Dafydd Saer ei gwr - Steffan Morgan

The Accordian Man - Robbie Smith

Vigil ar Lon Eben - Jacob Whittaker

Y Gweinidog Eben Morris - Geraint Volk 

Cadpen Llywelyn - Jonathan Rees 

Captain Anthony Lockwood RN - Bill Hamblett

Swyddog Diogelwch Stena Line – Rhowan Alleyne

‘Cyfaill’ - Rowan O'Neill



Canodd yr emyn 'Bydd Melys Lanio' i'r don Dolwyddelan gan Côr y Cynhaeaf a Côr Clwb Rygbi Aberteifi dan arweiniad Terence Lloyd a Rhian Medi Jones. Rhwyfodd Skif, 'Y Dwrgi' gan Caroline Jenkins ac Emma Williams, o Glwb Rhwyfo Llandudoch a'u cox Richard James.



Crewyd tu fewn i'r llong gan myfyrwyr o Coleg Ceredigion a'u darlithydd Ben James gyda mewnbwn arwyddocaol o Nick Newland. Rhoddwyd y pren ar gyfer y gosodiad gan meliniau llifo Quentin, Cenarth.



Cafodd y caban ei wisgo gan Sian Tucker, Jackson Tucker Lynch a James Lynch o Fforest a greodd y gwaith celf ar gyfer paneli'r arddangosfa hefyd.  Diolch i Llyfrgell Genedlaethol Cymru am sgan digidol y balad a'r Amgueddfa Genedlaethol Cymru am y caniatad i ddefnyddio lluniau o gasgliad Tom Mathias.



Cyhoeddodd y paneli gan E. L. Jones a cafodd y gerdd ei gyfieithu i'r saesneg gan Richard 'Oernant' Jones.



Diolch hefyd i Colin Thomas a'i hen daid, Herbert Thomas, Capten y Triton am rhoi cân o ysbrydoliaeth i'r prosiect.



Diwedd y gân