Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Cafodd y llong mewn potel hon ei gwneud gan Hugh Jones (1875-1918) o Surrey House, Y Borth, pan oedd yn dal yn Llongwr Masnach dan brentisiaeth. Mae’n fodel o long â rigin llawn ger arfordir creigiog, ynghyd â goleudy a bwthyn.
Adeg ei farwolaeth, Hugh Jones oedd Capten agerlong o’r enw HEATHPARK. Roedd y llong yn cludo llwyth o fwyn o Bilbao i Maryport pan gafodd ei suddo gan dorpido ym Mae Biscay gan yr U 91 dan reolaeth Alfred von Glasenapp ar 5 Hydref 1918. Bu farw’r criw cyfan o 18. Corff y Capten Jones oedd yr unig un y daethpwyd o hyd iddo yn y môr a chafodd ei gladdu yn Bilbao.
Neil Evans, Winsford, a ddaeth â’r llong mewn potel hwn i sylw Prosiect Llongau-U 1914-18 ac a roddodd ganiatâd i ni ei rannu. Wnaeth e etifeddu'r eitem hwn o'i daid.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw