arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Stori yr U 91

Yng ngwanwyn 1918, roedd llong-U U 91, dan reolaeth Alfred von Glasenapp, yn patrolio sianel Iwerddon. Roedd y llong-U wedi gadael ei phorthladd yn Heligoland ar 10 Ebrill 1918 ac wedi cael cryn lwyddiant. Erbyn 25 Ebrill, roedd hi eisoes wedi suddo pum llong. Ar 26 Ebrill, daeth ar draws yr ETHEL, sgwner bren, 19 milltir oddi ar arfordir Sir Benfro, yn cludo cargo o lo o Gaerdydd i New Ross. Gwelodd criw’r ETHEL y llong-U a gadawsant eu llong ar frys, gan ddianc yn y badau achub.
Ni laddwyd yr un aelod o griw’r ETHEL, ond wrth adael ar frys gan ofni am eu bywydau anghofiwyd am gi’r llong a’i adael ar ôl. Mabwysiadwyd y ci gan y criw Almaenig a’i ailenwi’n Lotte.
Arhosodd Lotte gyda’r tanforwyr am weddill eu patrôl llwyddiannus o amgylch Cymru pan aethant ymlaen i suddo’r GRESHAM, WALPAS, ORONSA, DAMÃO a RAYMOND mewn byr amser.
Aeth von Glasenapp a chriw’r U 91 ar ddau batrôl arall, gan suddo mwy o longau, ac i von Glasenapp orffen y rhyfel yn gapten llong-U llwyddiannus a enillasai nifer o fedalau. Allan o’r 498 o gapteiniaid llongau-U, ef yw’r 24ydd mwyaf llwyddiannus o ran nifer y llongau a gafodd eu suddo neu eu difrodi. Suddwyd 52 o longau a difrodwyd chwech arall gan y ddwy long-U y bu’n gapten arnynt. Bu farw ym 1958 yn 75 oed.

Mae 25 eitem yn y casgliad

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Ffotograff Alfred von Glasenapp

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Ffotograff o griw yr U 91 yng ngwanwyn 1918

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Adroddiad Swyddogol ar golli’r LANDONIA ar 21...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

HUN BARBARITY

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

U 91 yn achub marjarîn (1918)

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Suddo'r BARRON HERRIES (1918)

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Adroddiad Swyddogol ar golli’r BARRON HERRIES...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Carcharorion rhyfel a chi ar llong danfor U 91

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

James Goodwin (g.1891)

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Adroddiad Swyddogol ar golli’r ETHEL ar 26...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

U 60 yn y Môr Celtaidd (1918)

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Adroddiad Swyddogol ar golli’r GRESHAM ar 26...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Adroddiad Swyddogol ar golli’r WALPAS ar 27...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Adroddiad Swyddogol ar golli’r ORONSA ar 28...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

The Oronsa, British Liner, Is Sunk By U Boat;...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

U-Boat Sinks Steamship; Only 3 of 250 Are Lost;...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

BALL GLOVE IS MADE IN FRANCE [...] U-BOAT SINKS...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

SHIP SUNK BY TORPEDO, 57 Y. M. C. A. WORKERS...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

SAVE Y.M.C.A. MEN IN U-BOAT SINKING

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

THE ORONSA TORPEDOED

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

The Lost S.S. Oronsa

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

LINER SUNK

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Adroddiad Swyddogol ar golli’r DAMÃO ar 28...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Llong mewn potel

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Carreg fedd Hugh Jones, Y Borth (1875-1918)

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw