Llythyron adeg y rhyfel oddi wrth Pte Leslie Lloyd Tyler at ei fam, 1917-18
Disgrifiadau
Mae’r llyfr nodiadau hwn yn cynnwys trawsgrifiadau o lythyrau a anfonwyd gan y Preifat Leslie Lloyd Tyler i’w fam rhwng mis Mai 1917 a mis Hydref 1918. Cafodd ei eni yn Bilston, Swydd Stafford, ar 9 Tachwedd 1896. Ar ôl glanio yn Calais ar 22 Mai 1917, mae’r llythyrau’n adrodd profiadau Tyler gyda Chatrawd De Swydd Stafford yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n cyfeirio at ei ddyletswyddau yn y fyddin fel Swyddog Cudd-ymchwil, gyrru tanc am y tro cyntaf, dod wyneb yn wyneb â charcharorion rhyfel Almaenig, ymosodiadau nwy rheolaidd, a sefydlu gwersyll mewn château gwag.
Marianne Baron, y Borth, a ddaeth â’r eitem hwn i sylw Prosiect Llongau-U 1914-18 ac a roddodd ganiatâd i ni ei rannu. Gwnaeth hi etifeddu'r nodiadur hwn o'i thaid.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment