Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae’r ffotograff hwn yn dangos Hugh Pugh Jones, ar y dde, gyda chyfaill, o Drawsfynydd mae’n debyg. Mae’r ddau yn gwisgo lifrai’r Gwarchodlu Cymreig. Nid yw’r llun wedi’i ddyddio, ond ar sail ei rif gwasanaeth, rhaid ei fod wedi’i dynnu rywbryd ar ôl Awst 1916.
Cyn ymuno â’r Gwarchodlu Cymreig roedd yn gweithio fel gwas fferm ym Mhen-y-Bryn, Dyffryn.
Hilda Harris, Dyffryn Ardudwy, wyres Hugh Pugh Jones, a ddaeth â’r ddogfen hon i sylw Prosiect Llongau-U 1914-18 ac a roddodd ganiatâd i ni ei sganio.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw