ceinwsarchive
Dyddiad ymuno: 22/09/11
Amdan
Mae Ceinws Archive yn cynnwys amrywiaeth o ffotograffau a dogfennau, deunydd sain a ffilmiau byrion gan Ray a Julia Gunn sy’n byw yn Esgairgeiliog, Ceinws, rhyw bedair milltir i’r gogledd o Fachynlleth ar hen ffordd Corris. Dychwelodd Julia i fyw yn Esgairgeiliog yn 1982 gyda Ray wedi deuddeg mlynedd o fod yn byw dros y ffin yn Lloegr oherwydd gyrfa Ray yn yr Awyrlu Brenhinol. Daeth Ray i fyw i ardal Corris yn ei arddegau, gan symud o bentref bach yn y Cotswolds. Mae’r ddau wedi ymddeol bellach.
Ers 2011 mae Julia wedi bod yn llwytho deunydd ar wefan Casgliad y Werin Cymru sy’n ymwneud â hanes yr ardal lle bu ei chyndeidiau yn byw ers yr ail ganrif ar bymtheg, a hefyd deunydd sy’n adrodd hanes ac yn cofnodi bywydau amrywiol aelodau o’i theulu. Mae Julia a Ray ill dau yn ffotograffwyr brwd ac yn 1998 ymddangosodd Ray ar y teledu ar raglen gylchgrawn ‘Homeland’ i siarad am ei gariad mawr at ffotograffiaeth. Cafodd ei gyfweld yn benodol ynghylch ei ddiddordeb amser hamdden yn creu archif ffotograffig o bentref Ceinws a’r dalgylch er mwyn ei rhoi ar gof a chadw i genedlaethau’r dyfodol. Yn dilyn o hynny aeth y ddau ati i gynhyrchu ac i gyhoeddi cyfrol eu hunain: ‘Esgairgeiliog Ceinws, In Pictures and Words, Past and Present’ (2003).