'Cerdd Betti o Lansantffraid' gan Jac Glan-y-gors, tudalen 1
Disgrifiadau
Ganed John Jones neu Jac Glan-y-gors (1766-1821) yng Nglan-y-gors, Cerrigydrudion, Sir Ddinbych. Aeth i Lundain ym 1789 ac erbyn 1793 ef oedd rheolwr neu berchennog y 'Canterbury Arms' yn Southwark. Roedd yn aelod blaenllaw o Gymdeithas y Gwyneddigion ac yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Cymreigyddion ym 1795. Roedd Glan-y-gors yn fwyaf adnabyddus am ei gerddi a'i faledi dychanol a oedd yn adlewyrchu ei safbwyntiau radical. Yn y faled hon, mae Jac Glan-y-gors yn cyflwyno portread dychanol o 'Betti o Lansantffraid', Cymraes benchwiban sy'n mynd yn ysglyfaeth i ffasiynau Llundain.
Ffynhonnell: Meic Stephens (gol.), 'Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru' (Caerdydd, 1997).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment