Skip to main content

Llythyr oddi wrth Lewis Jones at y Parch. Michael D. Jones, 20 Medi 1868 [delwedd 1 o 4]

Disgrifiadau

Yn y llythyr hwn o Buenos Aires, dywed Lewis Jones ei fod wedi prynu llong (y 'Nueva Gerónima') at wasanaeth y Wladfa. Mae'r llong yn ddigon mawr i gario anifeiliaid neu ar gyfer hela morfilod, ac fe ellid ei defnyddio i gario calchfaen neu cherrig palmant. Mae'n gobeithio y bydd y cynhaeaf yn llwyddiannus gan y bydd hynny'n rhoi 'bywyd newydd i'r Mudiad. Mae agos y cwbl yn dibynnu ar hyn, ac yr wyf mewn mawr bryder yn ei gylch'. Bu'n rhaid i Hugh Jones, gŵr oedrannus o Gerrigydrudion, ddychwelyd at ei deulu i'r Unol Daleithiau, wedi iddo fynd yn sâl. Ym marn Lewis Jones, roedd Hugh Jones, a oedd yn 69 oed, yn rhy hen i gychwyn bywyd newydd yn y Wladfa. Hefyd, gofynna i Michael D. Jones anfon milgi a rhywfaint o blanhigion iddo. Dywed fod dirfawr angen crydd a melin wynt yn y Wladfa.

Owner:
Department of Manuscripts and Archives, University of Bangor
Crëwr:
Jones, Lewis
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Adran Archifau a Llawysgrifa
Copyright Details:
Adran Archifau a Llawysgrifau, Prifysgol Cymru, Bangor 2010
Publisher Ref:
GTJ17881
Eitem wedi’i llwytho:
21/1/2010
Date originally created:
20/9/1868
Gwelediadau:
848
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment