Llythyr oddi wrth R. J. Berwyn at y Parch. Michael D. Jones, 4 Mai 1875 [tudalen 1, delwedd 1 o 2]
Disgrifiadau
Llythyr oddi wrth R. J. Berwyn, Ysgrifennydd Cyngor y Wladfa, at y Parch. Michael D. Jones, 4 Mai 1875. Ysgrifenna ar ran y Cyngor i ofyn: 1) a ydyw Michael D. Jones yn anfodlon i'r Cyngor ei gynrychioli bellach 2) a ydyw wedi dewis cynrychiolwyr eraill nad ydynt yn aelodau o'r Cyngor 3) a ydyw wedi awdurdodi 'Mab Anian' (David Jones, Nantyrhyd) i ohebu gyda'r Cyngor ynghylch mater y ddyled. Ymhellach, nodir bod aelodau'r Cyngor yn gofyn iddo ohebu yn uniongyrchol â hwy ac nid ag unigolion eraill. Ar ddiwedd y llythyr, dywedir bod y Cyngor wedi penderfynu cyflwyno 'quillango' iddo am ei waith ar ran y Wladfa. Bydd yn cael ei anfon drwy law Edwin C. Roberts.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment