Skip to main content

Llythyr oddi wrth Humphrey Jones, prentis fferyllydd yn Llundain, at ei rieni yn Llangollen, 17 Hydref 1854 [delwedd 1 o 3]

Disgrifiadau

Anfonodd Humphrey Jones y llythyr hwn, dyddiedig 17 Hydref 1854, at ei rieni o Lundain. Mae'n diolch iddynt am anfon yr hosanau a'r llyfrau. Ysgrifenna ynghylch Rhyfel y Crimea a'r colledion difrifol ymhlith y Ffiwsilwyr Cymreig. Roedd wedi darllen enwau'r milwyr a laddwyd ac a anafwyd ac roedd yn gobeithio bod y dynion o Langollen wedi dianc yn ddi-anaf. Dywed ei fod wedi cael cyfle i grwydro drwy un o ardaloedd mwyaf amheus Llundain pan aeth ar neges i hel rhenti ar gyfer ei gyflogwr. Mewn ymateb i ymholiadau ei fam ynghylch ei ddillad gwely, dywed Humphrey fod y wraig sy'n golchi ei ddillad yn ofalus iawn ac yn sicrhau bod y dillad wedi eu sychu'n iawn cyn eu dychwelyd.

Owner:
Denbighshire Record Office
Crëwr:
Jones, Humphrey
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifdy Sir Ddinbych
Copyright Details:
Archifdy Sir Ddinbych 2002
Publisher Ref:
GTJ17518
Eitem wedi’i llwytho:
21/1/2010
Date originally created:
17/10/1854
Gwelediadau:
1025
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment