'Baner Alma' - a gariwyd gan y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn ystod Rhyfel y Crimea, 1854
'Baner Alma' - a gariwyd gan y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn ystod Rhyfel y Crimea, 1854
Disgrifiadau
Dyma'r cyfan sy'n weddill o Faner y Gatrawd a gariwyd ym Mrwydr yr Alma yn ystod Rhyfel y Crimea, 1854. Ynghyd â Baner y Brenin, cafodd ei gyflwyno i'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig 1af gan y Cadlywydd, Ei Fawrhydi'r Tywysog Cydweddog ym 1849. Mae baner yr Undeb a rhai o anrhydeddau'r frwydr ar goll. Wedi i'r banerwr, J. H. Butle, gael ei ladd, cariwyd y faner gan y Prif Swyddog Is-Gyrnol Harry Chester. Cafodd yntau hefyd ei ladd. Yna, cariwyd y faner gan y Sarsiant Harry Smith. Roedd y gelyn yn ystyried y faner yn darged pwysig. Drylliwyd y faner hon gan 16 o belenni canon. Cafodd y faner ddrylliedig hon ei defnyddio hyd 1880.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment