Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Poster yn hysbysebu Teithiau Haf ar yr Afon Tafwys yn ystod tymor 1899

Roedd y Brodyr Salter, Adeiladwyr Cychod o Rydychen wedi rhedeg Stemars Salŵn yn ddyddiol rhwng Rhydychen, Henley, Windsor a Kensington rhwng Mai 15 a Medi 30, 1899.

Dyma restr o'r llefydd lle gellid prynu tocynnau a chael gwybodaeth lawn, ar wahân i'w cael ar y stemars eu hunain, sef:
Llundain, Manceinion, Birmingham, Abingdon, Reading, Henley, Marlow, Maidenhead, Windsor, East Molesley, Kingston a'r Brodyr Salter, Adeiladwyr Cychod, Rhydychen.

Gellid mynd ar Deithiau Cylchol hefyd gyda thocynnau cyfunol i Reilffordd a Stemar, a gellid teithio dosbarth cyntaf, ail neu drydydd ar y Rheilffordd, ond byddai Tocynnau o unhyw ddosbarth ar gael ar gyfer unrhyw ran o'r Stemars.

Roedd Thos. Cook a'i Fab wedi gwneud trefniadau am Dripiau yn para am ddeuddydd neu fwy mewn cysylltiad â'r Stemars, ac wedi cyhoeddi Tocynnau i gynnwys Rheilffordd, Stemar a llety mewn Gwesty.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw