arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips ym Monte Video, gan Captain John G Cox yn 278 Calle 25 de Margo Monte Video, dyddiedig 12 Gorffennaf 1874

Roedd John G Cox wedi ysgrifennu dau lythyr at Thomas Benbow Phillips, ond ni chafodd ateb. Byddai Mr Smith, ei frawd yng nghyfraith, yn mynd i borthladd Thomas Benbow Phillips, ac roedd John Cox yn meddwl tybed a glywodd fod pedwar a phedwar ugain o ymfudwyr wedi cyrraedd i Buenos Aires, ynghŷd â Mr Mathews. Roedd Mr Lloyd Jones yn eu plith hefyd, a byddent yn gadael Buenos Aires ymhen ychydig ddyddiau am Chupat. Roedd rhai yn teithio mewn sgwner oedd yn masnachu yno, y gweddill yn teithio mewn llong ryfel o Buenos Aires, Daeth rhai o'r Taleithiau a rhai o Loegr; roedd y rhai o'r Taleithiau wedi eu bwrw ymaith ar arfordir Brasil ac wedi colli eu dillad a'u bagiau i gyd. Roeddynt yn trefnu casgliad iddynt ym Muenos Aires. Roedd John Cox wedi gwneud ymholiadau am halen, a chael ar ddeall nad oedd dim halen gwerth sôn amdano. Gofynnodd John Cox i Thomas Benbow Phillips gymryd gofal mawr o'i frawd yng nghyfraith, ac anfonodd ddymuniadau gorau Mrs Cox i'r teulu i gyd.

Ar yr ail dudalen, y geiriau “Capt Cox”

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw