Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Ann Thompson, 2 Ionawr, 1874
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips gan Ann Thompson yn Llundain, dyddiedig 29 Ionawr 1874
Diolchodd Ann Thompson i Thomas Benbpw Phillips am ei lythyr dyddiedig 3 Tachwedd, a mynegodd ei llawenydd o glywed fod ei wraig a'i blant yn iach. Adroddodd ei bod hithau'n iach ac yn gyfforddus ac anfonodd ei chariad at y teulu. Derbyniodd newyddion trist ddiwedd Rhagfyr, ac roedd yn ysgrifennu i'w hysbysu fod Mr Henry wedi marw. Roedd Mr Henry wedi dweud wrth Ann Thompson nad oedd yn ymddangos fod y meddygon yn gwybod beth oedd ei salwch, a'i fod wedi colli llawer iawn o bwysau. Roedd Ann Thompson yn gobeithio fod siop Thomas Benbow Phillips yn ffynnu, ac os nad oedd yn gyfoethog mewn aur, roedd yn gyfoethog mewn plant. Adroddodd fod y tywydd yn Llundain yn braf ac yn fwyn ac nad oedd wedi teimlo'r oerfel mor arw ag y gwnaeth yn Rio Grande. Amgaeodd lythyr i Thomas Benbow Phillips ei roi i'w fam, ac roedd wedi anfon rhai pregethau iddi hi wedi eu cyfeirio at Thomas Benbow Phillips. Gofynnodd Ann Thompson i Thomas Benbow Phillips adrodd ei holl newyddion iddi yn ei llythyr nesaf, oherwydd roedd yn amddifad o newyddion ers marwolaeth Mr Henry.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment